Hanes y prosiect Brace arobryn
Mae cynhyrchion arobryn yn wych; mae cynhyrchion arobryn sy’n medru newid bywydau miloedd o bobl yn hanfodol.
Yn 2007, amcangyfrifwyd bod 1 ym mhob 400 o bobl yn dioddef o anhwylder dwyfron – ac effeithir ar 20% o’r rheiny gan Pectus Carinatum (neu ‘Dwyfron Gul’), camffurfiad sy’n golygu bod sternwm ac asennau’r unigolyn yn ymwthio allan o’r corff.
Ymddengys Brace.
Datblygwyd y ddyfais chwyldroadol hon gyntaf ar gyfer dynion sy’n dioddef o’r anhwylder, cyn esblygu i gynnwys cyfarpar penodol i fenywod hefyd, y’i gelwir yn Female Brace ar hyn o bryd. Mae Brace yn gwasgu brest y claf i lawr dros amser ac yn gwthio’r rhannau sy’n ymwthio allan yn ôl i’w lle.
R&D Surgical Ltd, cwmni wedi’i leoli yng Nghaerdydd sy’n cynhyrchu a dosbarthu cynhyrchion sy’n newid bywydau ledled y byd i helpu rheoli a thrin rhai o’r cyflyrau meddygol mwyaf anodd, sy’n gyfrifol am y cynnyrch arloesol hwn.
I’r arbenigwyr a greodd Brace, mae’r llwyddiant mwyaf hanfodol yn dod ar ffurf eu cleifion hapus ac iach, bonws ychwanegol yw ennill Gwobr Aur ddwbl iF Design.
Yn y fideo hwn, siaradwn â Roger Thomas, Cyfarwyddwr R&D Surgical a chrëwr Brace, i archwilio taith y cynnyrch a’i ymroddiad i helpu cleifion Pectus Carinatum ifanc.