Female Brace
R&D Surgical Ltd
Credir bod hyd at 4 miliwn o blant bob blwyddyn yn cael eu heffeithio gan pectus carinatum, a elwir hefyd yn ddwyfron gul. Er bod y cyflwr yn effeithio'n bennaf ar fechgyn yn eu harddegau, mae merched hefyd yn dioddef gyda'r cyflwr. Mae clampio esgyrn y fron er mwyn caniatáu iddynt dyfu'n gywir yn driniaeth effeithiol, ond mae dyluniad y fframiau cyfredol yr un fath ag 80 mlynedd yn ôl, ac yn anghyfforddus, yn wanychol a ddim wedi'u cynllunio i ffitio cyrff merched.
Mae'r brês newydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer cyrff merched yn eu harddegau, i ffitio'n dwt ac yn gynnil. I’w wisgo o dan ddillad, mae'n defnyddio deunyddiau a mecanweithiau cyfoes i greu datrysiad mwy cyfforddus, effeithiol yn glinigol a chynnil. Dyma'r arloesi cyntaf wrth drin pectus carinatum ers blynyddoedd lawer ac nid oes unrhyw gynhyrchion eraill sy'n defnyddio dull tebyg i gystadlu a’r cynnyrch yma. Mae'r fenter, a sefydlwyd gan grŵp bach o glinigwyr pediatreg weithredol, yn credu'n gryf mewn dull cyfannol o drin sy'n cydnabod lles emosiynol yn ogystal â chorfforol. Y cynnyrch brês benywaidd yw eu hail gynnyrch sy'n gosod dull sy’n canolbwyntio’n fawr ar bobl a dealltwriaeth ddofn o anghenion defnyddwyr wrth galon eu dylunio.
Mae dyluniad strwythurol, ochr yn ochr ag astudiaeth ergonomig ofalus, yn rhedeg yn gyfochrog â gofynion ynghylch cysur a lles cleifion i sicrhau triniaeth effeithiol. Yn hytrach na bariau a chlampiau metel crom rydym yn defnyddio is-ffrâm metel main ac Delrin, sy'n darparu'r strwythur sylfaenol ar gyfer defnyddio grymoedd cywasgu. Mae'r is-ffrâm hon wedi'i hamgáu â ffabrig padio ac anadladwy allanol sy'n darparu siâp cyffyrddus a hawdd ei wisgo, a all ffitio o dan ddillad a chaniatáu ar gyfer defnydd cynnil, cyfforddus gydag esthetig yn fwy derbyniol yn gymdeithasol gan godi llai o stigma i ddefnyddwyr yn eu harddegau.
Mae astudiaeth glinigol hyd yma wedi profi bod y ddyfais yn effeithiol a bod merched yn eu harddegau sy'n dioddef gyda'r cyflwr yn hoff iawn ohono. Mae triniaeth ar hyn o bryd, tra bod esgyrn yn dal i ddatblygu, yn gwella problem ymwthiad, sydd yn ei dro yn atal cymhlethdodau fel anawsterau anadlu a phoen yn y frest rhag dod i'r amlwg. Fodd bynnag, mae'r effaith fwyaf y tu hwnt i ystyriaethau corfforol ac mae'n ymwneud â chanfyddiadau o ddelwedd y corff a hunanhyder sy mor hanfodol yn ystod yr arddegau. Gall triniaeth fod hyd at 24 mis ac mae'r ddyfais wedi'i chynllunio i gael ei ddychwelyd wedi i driniaeth gorffen, y ffabrig a'r padin, sy'n hawdd ei dynnu i'w glanhau, eu disodli a'u rhoi i glaf newydd.
Gall clinigwr rhoi’r cynnyrch at ei gilydd a’i addasu’n hawdd, a chymhwyso grymoedd cywasgu gyda chliciedi main pob ochr i'r cynnyrch. Wrth ‘r defnyddiwr dyfu gellir addasu'r cynnyrch yn hawdd heb offer i wneud i’r cynnyrch ffitio. Mae treialon yn nodi bod grym mwy dosbarthedig a mwy o gysur gan ddefnyddiwr y ddyfais yn sicrhau defnydd hirach a chanlyniadau gwell mewn cyfnod byrrach.