Croesawu Uwch Ymgynghorydd Dylunio newydd i’r tîm!
Rydyn ni’n falch o gyflwyno John MacPherson, Uwch Ymgynghorydd Dylunio yn PDR, a ddechreuodd weithio i ni am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2018 fel contractiwr.
Pan nad yw’n brysur yn gweithio, mae John – a aned yn Glasgow ond sydd bellach yn byw ym Manceinion - wrth ei fodd yn beicio o amgylch y dref a chwilio am fathau mwy a mwy anghyffredin o goffi i’w defnyddio gyda’i gasgliad arbennig o beiriannau coffi, casgliad sy’n tyfu drwy’r amser (ei ffefryn ar hyn o bryd yw’r AeroPress). Ers mis Mawrth 2020, mae wedi bod yn gweithio’n rhithwir gyda gweddill y tîm ar brosiectau fel Cooltone, Dose a mwy.
Pan ofynnwyd iddo pam roedd gweithio yn PDR wedi apelio ato gyntaf, mae John yn dweud yr un peth ag y mae sawl aelod o’n tîm yn ei ddweud. “Roedd y newid mewn cyflymder a’r mathau gwahanol o brosiectau roeddech chi’n cael bod yn rhan ohonyn nhw’n rhywbeth cyffrous i mi. Gweithio i derfynau amser byrrach, ystyried gwahanol agweddau ar ddylunio – mae’r cyfan mor ddiddorol. Ac mae’r bobl rydych chi’n cydweithio â nhw yn gwneud gwahaniaeth enfawr; mae pawb yn gyfeillgar ac yn hapus i helpu.”
Ar ôl graddio mewn Peirianneg Dylunio Cynhyrchion o Brifysgol Glasgow yn 2004, aeth John yn ei flaen i weithio gyda thechnoleg switsys sy’n gweithio drwy fagnetau mewn synwyryddion agosrwydd, ac yn ddiweddarach gyda chwmni sy’n cynhyrchu llechi a dyfeisiau llaw fel Pennaeth Dylunio – profiad uniongyrchol o weithgynhyrchu a dylunio ar gyfer y broses gynhyrchu.
Felly sut beth yw diwrnod cyffredin yn PDR? Eglura John, “Mae’r gair ‘Ymgynghorydd’ yn gamarweiniol - rydw i’r math o ddylunydd sy’n hoffi torchi llewys. Fel arfer, mae’r diwrnod yn cychwyn gyda sgwrsio â phobl, cyfarfodydd, galwadau, sgyrsiau Teams – sy’n fater o drefn erbyn hyn! Rydw i’n treulio llawer o’m hamser ar CAD, yn creu syniadau, yn gwerthuso, yn datblygu prototeipiau, yn profi ac yn argraffu cydrannau – neu efallai fy mod yn cynnal gwaith ymchwil cyn i’r broses gyfan gychwyn.”
Er na all John sôn rhyw lawer am brosiectau cyfredol, mae wedi bod yn rhan o’r tîm sy’n cyflawni ein prosiectau ar gyfer Allergan, fel Cooltone a’r CoolSculpting Elite sydd newydd ei lansio – ond amrywiaeth prosiectau PDR sy’n apelio at John a dyma pam mae’n hoffi ei waith gymaint.
Mae’r diwylliant tîm a’r math o waith rydyn ni’n ei wneud yn bwysig i John hefyd. “Fel cwmni mae PDR yn arloesol ac yn ddeinamig, ac mae ganddo weithlu ifanc. A’r hyn sy’n drist yw fy mod i ymysg yr hynaf,” ychwanega gan chwerthin. “Mae gweithio gyda PDR yn golygu y galla i herio fy hun a rhoi cynnig ar lawer o brosiectau gwahanol, a chymryd rhan mewn pethau newydd. Mae’n golygu gweithio ar brosiectau sy’n fuddiol i’r byd, felly mae’n brofiad gwerth chweil hefyd.”
Gallwch ddysgu mwy am y profiad o weithio yn PDR, neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.