The PDR logo

YMUNO Â’R TÎM

Os ydych chi am wneud gwaith gorau eich bywyd gyda rhai o’r bobl orau y gwnewch eu cyfarfod yn ystod eich oes, yna darllenwch ymlaen. Byddwch chi’n cael eich ymestyn, does dim dwy waith am hynny!

GWEITHIO YN PDR

Y Gwaith

Ansawdd yw popeth yn PDR. Mae’r pwyslais bob amser ar ba mor dda yw’r gwaith a sut i wella, lle gallwn ddysgu a chan bwy, sut i gyrraedd y lefel nesaf. Mae yna gwmnïau a sefydliadau gwych yn bodoli, ac rydym yn ddigon ffodus i fod yn cydweithio â rhai ohonynt. Ein meincnod yw’r gorau yn y maes ac rydym yn disgwyl y safonau uchaf. Byddwch chi’n cael eich herio.

Yr Amgylchedd

Mae gan PDR stiwdio wych a gofodau gweithio sy’n llawn o’r adnoddau ymchwil, dylunio, datblygu a chydweithredu diweddaraf. Mae ein gwaith yn fyd-eang ac mae’n debyg y byddwch chi angen teithio i rai llefydd difyr ond byddwch chi’n gweithio gan fwyaf ar gyrion parcdir mewn dinas anhygoel sydd ar yr arfordir a 10 munud o’r mynyddoedd. Wrth gwrs, mae yna ystafell ffitrwydd y gallwch ei ddefnyddio, 30 diwrnod o wyliau a chynllun pensiwn cyflog terfynol. Bron i ni anghofio sôn am y coffi rhad ac am ddim ....

Y Diwylliant

Dyw PDR ddim yn sefydliad ‘corfforaethol’. Ddewch chi ddim ar draws systemau gweinyddol enfawr, llawer o siarad busnes a chydweithwyr dydych chi prin yn eu hadnabod. Rydym ni’n dîm cymharol fach ac agos. Rydym ni’n adnabod ein gilydd ac yn dibynnu ar ein gilydd. Wrth gwrs, rydym ni’n chwilio am dalent diau, moeseg gwaith gadarn, a sgiliau arbennig ond hefyd rhywun sydd â’i draed ar y ddaear ac sydd ag awch i wybod a dysgu mwy drwy’r amser, ac sy’n unigolyn didwyll a da.

BYWYD YN PDR

Dewch i Drafod

Cysylltu