Dewch i gwrdd â’n Uwch Ddylunydd sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr newydd, Hefin Jones
Mae hi wedi bod yn amser prysur yn y tîm PDR sy’n tyfu’n gyflym, gyda sawl wyneb newydd wedi’u hychwanegu at ein galwadau fideo wythnosol – ac rydym yn falch iawn o gyflwyno’n recriwt diweddaraf, Hefin Jones!
Bu Hefin, brodor o Orllewin Cymru sy’n ymuno â ni fel ein Uwch Ddylunydd sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr newydd, yn gweithio’n flaenorol fel dylunydd â sefydliadau cyhoeddus, diwylliannol ac addysgol megis Canolfan Mileniwm Cymru, Amgueddfa Victoria ac Albert, a’r Wellcome Centre for Neuroimaging, fel rhan o brosiectau ymchwil a dylunio cydweithredol. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae Hefin wedi bod yn ddarlithydd yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, ac yn ddarlithydd gwadd yn Central Saint Martins, a Phrifysgol Gothenburg.
Cyn dod o hyd i’w rôl newydd â ni, treuliodd Hefin 2 flynedd yn gweithio fel gweithiwr llawrydd ar brosiectau amrywiol, yn llwyr o bell, gan gynnwys cyd-ddylunio gwasanaethau a phrofiadau ar gyfer defnyddwyr amrywiol – o bobl ifanc ag epilepsi a’u teuluoedd, i athrawon a gweithwyr llawrydd creadigol. “Ers 2 flynedd, rydw i wedi gweithio o bell ar brosiectau amrywiol, ac er iddynt fod yn wych i weithio arnyn nhw, roedd y syniad o fod yn rhan o un tîm a datblygu diwylliant dylunio yn y lle rwy’n dod ohono yn ddeniadol iawn i mi.”
Mae diwylliant gwych o annibyniaeth ac effaith yma, sy’n wych ei weld.
Hefin Jones | UWCH DDYLUNYDD SY’N CANOLBWYNTIO AR Y DEFNYDDIWR | PDR
A sôn am ddiwylliant, roedd ein tîm yn atyniad mawr arall i Hefin. “Mae diwylliant gwych o annibyniaeth ac effaith yma, sy’n wych ei weld. Ac mae’r rhyngweithio rheolaidd â’r tîm yn berffaith – mae cymaint o gyfleoedd ar gyfer dysgu a throsglwyddo, ac mae pawb yn agored a chefnogol iawn.”
 chefndir cryf mewn dylunio amlddisgyblaethol a hoffter o’r dull hwnnw, roedd ffyrdd PDR o weithio’n elfen allweddol i Hefin. “O astudiaethau ethnograffig manwl a sgiliau cymdeithasegol hyd at sgiliau ymarferol fel gwneud ffilmiau, mae’r ffordd rwy’n gweld dylunio’n sicr yn ymwneud â defnyddio unrhyw ddisgyblaeth ym mha bynnag fodd sydd raid. Mae PDR yn enghraifft wych o rywle lle mae dylunwyr cynnyrch a pheirianwyr yn gweithio ochr yn ochr â phobl â sgiliau dadansoddi ac ymchwil defnyddioldeb i fynd i’r afael â her benodol gyda’i gilydd.”
Ond sut olwg allai fod ar hyn i gyd mewn diwrnod o waith?
“Fe allai fy niwrnod 9-5 gychwyn â chyfarfod traws-dîm lle rydyn ni’n trafod yr holl brosiectau amrywiol sy’n datblygu yn PDR. Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gweithio ar gasgliad o astudiaethau defnyddioldeb, felly efallai y bydda i’n treulio amser yn dysgu am rolau ac ymddygiadau defnyddwyr ar gyfer prosiectau amrywiol mewn cyfres o gyfweliadau, er enghraifft,” meddai Hefin.
O astudiaethau ethnograffig manwl a sgiliau cymdeithasegol hyd at sgiliau ymarferol fel gwneud ffilmiau, mae’r ffordd rwy’n gweld dylunio’n sicr yn ymwneud â defnyddio unrhyw ddisgyblaeth ym mha bynnag fodd sydd raid.
Hefin Jones | UWCH DDYLUNYDD SY’N CANOLBWYNTIO AR Y DEFNYDDIWR | PDR
Ond, fel ag erioed, bydd cwmpas y gwaith yma’n wastad yn cyflwyno rhywbeth newydd a diddorol i fynd i’r afael â nhw. “Rydyn ni ar fin dechrau gweithio gyda phartneriaid diwylliannol amrywiol ar brosiect lle rydyn ni’n edrych ar sut mae gan bobl fynediad at sefydliadau cyhoeddus, gan astudio dosbarthu adnoddau a ffurfiau gwybodaeth – a sut gellid cychwyn deialog rhwng sefydliadau trefol-ganolog mewn ardaloedd gwledig. Mae fel petai imi ymuno â PDR ac iddyn nhw gynllunio’r prosiect hwn yn arbennig i mi!”
“Fel prosiect, mae’n ymwneud â chreu rhywbeth yng Nghymru, gweithio gyda chydweithredwyr a chleientiaid ar eich stepen drws i feithrin y diwylliant a’r sgwrs gyhoeddus honno ynghylch dylunio a’r hyn y gall fod. Mae prosiectau PDR yn enwog am eu cyrhaeddiad a’u perthnasedd rhyngwladol, ond mae’r prosiect hwn sy’n benodol i Gymru’n gyffrous iawn i mi a’r tîm,” eglura Hefin. “Dyma yw prosiect fy mreuddwydion go iawn.”
Hoffai’r tîm yn PDR ddweud helo mawr swyddogol i Hefin a’i groesawu’n ôl i’w famwlad – bydded i’r prosiectau gychwyn!
CAMAU NESAF
Dysgwch ragor am sut beth yw gweithio yn PDR, neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.