Steriplas
Adtec
TRINIAETH ANFEWNWTHIOL
Mae technoleg Adtec sydd wedi’i phatentu, a ddatblygwyd ar y cyd â Sefydliad Max-Planck yn yr Almaen, yn generadu plasma oer sydd wedi’i brofi mewn treialon clinigol gan ddefnyddio cymwysiadau triniaeth 2-funud.
Mae’r system, a ddyluniwyd i’w gweithredu’n hawdd, yn gallu cael ei symud o gwmpas amgylchedd clinigol i ddod â’r driniaeth i’r claf a thrin clwyfau nychus a rhai sy’n bygwth bwyyd yn effeithiol.
O BROTOTEIP I WEITHGYNHYRCHU
Dechreuodd y gwaith hwn fel prototeipiau a ddatblygwyd am eu ffit a’u swyddogaeth ac yna symudodd y tîm ymlaen i wneud y darnau cynhyrchion terfynol gan ddefnyddio resin gwrth-fflam.
Cafodd y meistr-ddarnau eu hargraffu’n 3D a chafodd darnau cynhyrchion eu bwrw dan wactod gan lenwi rhai darnau â gwydr am gryfder ychwanegol. Roedd y dasg hon yn gofyn am offer silicon cymhleth gyda darnau wedi’u tros-fowldio.