The PDR logo

Stand

PDR Concept

Mae Stand yn gysyniad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr a gynlluniwyd i hyrwyddo defnydd cyfforddus ac i lehau stigma i blant â pharlys yr ymennydd heb gyfaddawdu ar ymarferoldeb.

Mae’r teclyn sefyll pediatrig wedi bodoli ers tro i gynorthwyo plant nad ydynt yn gallu sefyll yn unionsyth ar eu pen eu hunain. Fodd bynnag, nid yw dyluniadau wedi newid yn sylweddol ers degawdau ac maent yn aml yn canolbwyntio ar fframwaith dur cymhleth. Mae Stand yn gysyniad sy’n groes i ddyluniadau traddodiadol er mwyn ymgorffori agwedd fwy cyfforddus ac sy’n lleihau stigma.

Fe ddechreuon ni’r broses ddylunio gyda mewnbwn gan ein tîm dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, a fu'n casglu ymchwil ac yn cynnal sesiynau casglu syniadau i ddadansoddi sefyllfaoedd bob dydd y defnyddiwr fel chwarae, dysgu mewn ystafell ddosbarth a bwyta. Daeth yn amlwg y byddai angen iddo fod yn hyblyg i alluogi defnyddiwr i’w ddefnyddio yn y sefyllfaoedd hyn. O'r herwydd, fe wnaethom integreiddio'r gallu i atodi ategolion fel hambyrddau gwaith yn hawdd, a sicrhau y gall y dyluniad addasu wrth i blentyn dyfu fel y gallai wasanaethu dros nifer o flynyddoedd. Fe wnaethom hefyd sicrhau bod y cynnyrch wedi'i ddylunio i'w roi at ei gilydd yn hawdd ac i'w bacio'n fflat a’i gludo’n gyfleus.

Mae ein harbenigedd mewnol mewn lliw, defnydd a gorffeniad wedi ein galluogi i ddefnyddio agwedd newydd at esthetig Stand. Trwy gyfuno deunyddiau naturiol gyda gorffeniad meddal fe wnaethom greu cynllun cyfoes sy'n anelu at leihau stigma i ddefnyddwyr.

Mae ein galluoedd dylunio diwydiannol yn ein galluogi i ddatblygu cysyniadau a defnyddio rendrad 3D i'w delweddu er mwyn troi syniadau yn allbynnau diriaethol. Trwy ailadrodd cyson rydym yn gallu addasu'r dyluniad, hyd nes y byddwn yn cyrraedd cysyniad sydd â'r potensial ar gyfer gweithgynhyrchu.

Ers ei ddatblygiad mae Stand wedi derbyn gwobr Red Dot Concept ac yn ogystal â Gwobr Dylunio Almaeneg, yn y categori Dylunio Cynnyrch Ardderchog - Meddygol, Adsefydlu a Gofal Iechyd. Dywedodd y panel GDA fod Stand yn “cyfuno cysur, swyddogaeth a diogelwch mewn dyluniad cyfeillgar, clir, minimalaidd sydd ag ymddangosiad modern o ansawdd uchel ac sy'n helpu i leihau swildod.” Am y fuddugoliaeth dywedodd ein Cyfarwyddwr Jarred Evans y canlynol:

"Rydym yn falch iawn o helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ifanc â pharlys yr ymennydd trwy ein gwaith ar Stand, ac i dderbyn cydnabyddiaeth am ein cynnyrch gan gorff dyfarnu mor fawreddog."

Rydym wedi cwblhau prosiectau lluosog tebyg i Stand sy'n cynorthwyo pobl â phroblemau meddygol. Dysgwch fwy am ein gwaith ym maes Datblygu Dyfeisiau Meddygol yma.