Snoozeal
SIGNIFIER MEDICAL TECHNOLOGIES
Mae tua 40% o ddynion a 24% o fenywod yn dioddef gyda chwyrnu ac apnoea cwsg ataliol. Gall effaith chwyrnu fynd ymhell tu hwnt i’w ffactor niwsans gan amharu ar batrymau cwsg ac ansawdd cwsg y chwyrnwr a’u partner. Gall chwyrnu cyson gael effeithiau a chanlyniadau i iechyd mwy difrifol gan gynnwys apnoea cwsg yn effeithio ar orffwys, anadlu ac iechyd cardiaidd.
TRIN YR ACHOS NID Y SYMPTOMAU
Snoozeal yw’r ddyfais gyntaf erioed i drin un o achosion craidd allweddol chwyrnu yn y mwyafrif o ddioddefwyr. Mae Snoozeal yn defnyddio pylsiau trydanol dwysedd isel i hyfforddi cyhyrau’r dafod ac atal chwyrnu. Mae cynhyrchion gwrth-chwyrnu eraill ar y farchnad yn ceisio dal y bibell anadlu ar agor neu leihau ymwrthedd yn ystod cysgu. Mae Snoozeal yn gweithio i drin yr achos, nid y symptomau, ac yn holl-bwysig nid oes angen iddo gael ei wisgo wrth gysgu, problem sylweddol i lawer o ddioddefwyr presennol.
EICH DYFAIS TRINIAETH DDYDD
Mae Snoozeal wedi’i ddylunio i drin chwyrnu ysgafn i gymedrol, sy’n effeithio ar y mwyafrif helaeth o ddioddefwyr. Mae ond angen defnyddio Snoozeal unwaith y dydd, am 20 munud dros gyfnod triniaeth 6 wythnos, i fod yn effeithiol. Mae’r ddyfais yn cynnwys tair elfen graidd, mae’r darn ceg wedi’i wneud o silicon hyblyg ac wedi’i ddylunio’n ofalus i ffitio 95% o ddarpar ddefnyddwyr. Gall gale ei olchi’n rhwydd, mewn dŵr rhedegog, a’i ddefnyddio’n ailadroddus yn gysurus drwy gydol y sesiynau triniaeth. Mae’r brif uned yn cynnwys symbyliad trydanol, cyfthrebu, ac electroneg reoli. Yn fach, yn wydn ac yn gludadwy, mae wedi’i ddylunio’n fwriadol i fod y n syml ac yn reddfol ei sefydlu ac yn gweithredu fel craidd system Snoozeal.
OLRHAIN EICH CWSG
Mae ap Snoozeal yn cwblhau’r system ac ar gael ar iOS neu Android. Ochr yn ochr â gweithredu’r ddyfais ei hun, mae’r app yn galluogi’r defnyddiwr i ddewis o amrediad o gynlluniau triniaeth ac i olrhain gwelliannau dros amser wrth iddo fesur gwelliant mewn ansawdd cwsg trwy gydol y cyfnod trin. Mae’r ddolen reoli hon rhwng trin a gwella’n gyson yn gwella’n fawr iawn cydymffurfedd â’i ddefnydd a chysondeb y driniaeth gan fod defnyddwyr yn gweld manteision gwirioneddol a phendant i ddefnydd y ddyfais. Mae teclyn rheoli o bell am y ddyfais yn cael ei gynnwys hefyd am yr adegau hynny pan nad yw defnydd yr ap ar gael.