Gwasanaeth Dylunio CThEM
CYLLID A THOLLAU EM
Gwasanaeth dylunio yn broses ganolog mewn creu profiadau cydlynus a di-dor i ddefnyddwyr. Fodd bynnag, mewn amgylchedd lle mae polisi yn ffactor pwysig mewn siapio gwasanaethau, gall deimlo petai polisi wedi’i ddatblygu i ffwrdd o gyrff cyflenwi a defnyddwyr terfynolgwasanaethau. Fel y cyfryw, mae’n holl-bwysig i dimau datblygu polisi a chyflenwi gwasanaethau ymgysylltu â’r cyhoedd gyda’i gilydd wrth gyfd-greu polisïau a gwasanaethau. Credwn fod synergeddau sylweddol rhwng y broses ddylunio a’r broses bolisi – mae’r ddwy yn ymwneud â chymhwyso cylch strwythuredig datrys problemau, yn ddelfydol yn cynnwys defnyddwyr ar bob cam datblygu.
Yn rhan o’r prosiect ‘Dylunio Gwasanaethau mewn Amgylchedd Polisi’, rydym wedi cefnogi timau Gwasanaethau Digidol Cyllid a Thollau EM (CThEM) i i archwilio sut allent ymgysylltu’n well â thimau polisi i sicrhau trosi’n ddi-dor o ddatblygu polisi i weithredu gwasanaethau.
Gweithiom gyda CThEM i ehangu’r wybodaeth gyfredol o ddylunio â ffocws ar ddefnyddwr a chyfarparu’r tîm o reolwyr cynnyrch, rheolwyr gwasanaeth, ymchwilwyr defnyddwyr, a dylunwyr ag arbenigedd gwasanaeth dylunio a pholisi dylunio. Seiliwyd yr ymyrraeth ar dair sesiwn gweithdy ymarferol a gymhwysodd brosesau dylunio i heriau go iawn mewn perthynas â pholisïau am ddyfodol gwasanaethau digidol ar gyfer treth incwm a chredydau incwm.
Yn y gweithdy ‘Explore’ cyntaf, gweithiom drwy gyfres o dulliau gan gynnwys Diffinio Problem, Mapio Rhanddeiliaid, Mapio Polisi a fFramwaith Ymchwil Defnyddwyr. Galluogodd hyn i’r timau nodi beth roeddent yn ei wybod am sut roedd y polisi sy’n dylanwadu ar eu gwasanaeth wedi’i ddatblygu a beth allent ei wneud yn y dyfodol i sicrhau datblygu polisïau â mwy o ffocws ar ddefnyddwyr. Hefyd galluogodd i’r timau gynllunio cyfres o astudiaethau ymchwil defnyddwyr i ymgysylltu â’r defnyddwyr terfynol a’u swyddogion cyfatebol yn y timau polisi cyfatebol.
Canolbwyntiodd yr ail sesiwn ‘Elaborate’ ar ddistyllu’r gwersi o’r ymchwil defnyddwyr a rhoi i’r timau cyfres o ddulliau o eneradu syniadau drwy ddefnyddio offer fel Mapio Taith Defnyddiwr, Syniadu a Llunio Bwrdd Stori. Cefnogodd y sesiwn hon y timau i nodi dulliau ar gyfer symud y prosiectau yn eu blaen a chyd-greu atebion gyda defnyddwyr gan ddefnyddio technegau gweledol.
Galluogodd y cam ‘Expand’ y timau i gynllunio astudiaeth profi prototeip, gan gyflwyno’r cysyniad o hap-ddylunio a glasbrintio gwasanaeth i dreillio i bob elfen cysyniadau.
Y nod yn y pen draw yw dod o hyd i Greal Sanctaidd llunio polisi â defnyddwyr wrth ei ganol.
PENNAETH DYLUNIO | HMRC
Galluogodd y sesiwn ar hap-ddylunio i’r timau drefnu eu hatebion mewn amgylchedd â mwy o ffocws ar y dyfodol. O ganlyniad, datblygodd y timau dri chysyniad hap-ddylunio i sbarduno trafodaeth am ystyriaethau slfaenol yr heriau yn y dyfodol.
O ganlyniad i’r sesiynau, mae nifer o argymhellion tymor byrrach a hirach i’r timau. Mae’r rhain yn cynnwys ymgysylltu ag ymchwil defnyddwyr a chyd-ddylunio, gan greu cymuned ar draws disgyblaethau i arddel a rhannu arferion gorau, ac archwilio cyfleoedd i ymgysylltu â thimau polisi o ddatblygiad y polisi ei hun trwy ddatblygiad y gwasanaeth i weithredu polisi.
Aethom ymlaen i weithio gyda CThEM Digidol a’u cefnogi wrth sefydlu Labordy Polisi CThEM. Hwylusom weithdy gyda CThEM, yr Adran Gwaith a Phensiynau, a’r Trysorlys i ddiffinio’r model gweithredu, gwasanaethau a oedd yn cael eu cynnig, setiau sgiliau, prosesau, a meini prawf dewis prosiectau ar gyfer y Labordy. O hyn, datblygom broses pedwar cam am ddatblygu Labordai Polisi i gwmpasu Cynnig, Cynhyrchion, Proses, a Phrosiectau. Erbyn 2020, mae gan Labordy Polisi CThEM fwy nag 20 o bobl yn y tîm.
Gweithiwn yn agos gyda cyrff llywodraeth a sefydliadau i helpu i ddatblygu sgiliau a chydweithrediad o fewn y timau ac ar eu traws. Cysylltwch â ni os hoffech chi wybod mwy am Greenhouse, polisi dylunio, neu hap-ddylunio.