Optical Network Unit
IMAQLIQ
Mae Tîm IMAQLIQ yn ddatblygwr a gweithgynhyrchydd Rwsiaidd offer telathrebu ansawdd uchel. Wedi’u seilio yn St Petersburg maent yn un o ddarparwyr offer telathrebu pennaf Rwsia, gan wasanaethu marchnadoedd yn fyd-eang. Mae Imaqliq yn fath newydd o fusnes Rwsiaidd byd-eang, a yn gwmni hyderus a blaengar gyda phobl a syniadau’n greiddiol iddo. Mae’n frand sy’n anadlu bywyd yn ôl i mewn i’r farchnad telathrebu ac yn herio rhagdybiaethau am fusnesau Rwsia.
Mae’r sefydliad wedi tyfu ers ei gychwyn o ddosbarthwr, trwy integreiddiwr systemau, i ddylunio a gweithgynhyrchu ei amrediad o gynnyrch ei hun ac mae ganddo weledigaeth glir i fod yn ddatblygwr hynod o greadigol ac arloesol yn ei faes.
CIPIO YSBRYD SEFYDLIAD
Daeth IMAQLIQ at PDR i ddylunio rhan allweddol o’u technoleg rhwydweithio. Amrediad o unedau rhwydwaith optegol i’w defnyddio’n bennaf mewn amgylcheddau corfforaethol swyddfeydd a lleoliadau domestig mwy o faint.
Roedd ar y cwmni angen dyluniad cyfoes modern a fyddai yn ei dro yn gweithredu’n iaith ddylunio sylfaenol ar draws dau amrediad pellach o gynhyrchion gan gynnwys dyfeisiau wedi’u codi ar resel 19”.

AFON REWEDIG NEVA
Edrychodd dylyniadau cysyniad cychwynnol ar ddynameg a DNA corfforaethol y cwmni ynghyd â’i wreiddiau a’r diwylliant o amgylch ei sylfaen yn St Petersburg. Defnyddiwyd dadansoddiad iaith weledol ac offer lleoli yn sail i iaith ddylunio am y grŵp ac i gyfeirio tri chyfeiriad dylunio cysyniadol. Dewiswyd cyfeiriad craidd dan y teitl ‘Llif’ i’w ddatblygu ymhellach, wedi’i ysbrydoli gan olygfeydd gyda’r nos o afon Neva sy’n llifo trwy St Petersburg. Mae’r ddinas sy’n bencadlys i IMAQLIQ yn cyfuno hanes diwylliannol cyfoethog ac estheteg ddi-amser ag egni ifanc, newydd a hyder sy’n adlewyrchu gwerthoedd y sefydliad yn berffaith.

Mae cynnal bwriad a gweledigaeth dyluniad trwy ddylunio peirianneg manwl, tooling a chyflwyno cynnyrch newydd yn allweddol. Defnyddiodd peirianneg fanwl cynhyrchion gyfuniad o gydrannau metel wedi’u bwrw’n fanwl ac wedi’u mowldio chwistrell yn sail i’r cydosod. Cafodd y dyluniad terfynol ei tooled a’i weithgynhyrchu yn Fietnam.
