Mapio Profiad y Cwsmer
Kenwood
Mae Kenwood, enw cyfarwydd yng ngheginau Prydain, yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu cyfarpar cegin uchel eu hansawdd ers 1947. Er mwyn deall yn well pam a sut prynodd pobl eu cynhyrchion, gofynnwyd i ni fapio profiad y cwsmer o brynu eu cynhyrchion cegib, i nodi cyfleoedd i arloesi.
DEALL Y FARCHNAD BRESENNOL
Gweithioom gyda Kenwood i nodi eu demograffeg cwsmeriaid craidd a’u cystadleuwyr ym maes eu cynnyrch. Defnyddiom y data hwn i greu arolwg ar-lein i gwsmeriaid cynrychioliadol, gan gasglu data bras am sut roedd pobl yn siopa am y cynhyrchion hyn. Ar sail canlyniadau’r arolwg, gwnaethom ‘siopa’n ddirgel’ siopau adran ac electroneg, gan ofyn cwestiynau cyffredin defnyddwyr i staff er mwyn deall sut roedd y profiad yn y siop yn dylanwadu ar benderfyniadau prynu.

NODI MANNAU CYSWLLT CYNNYRCH
Sefydlom ni amgylchedd tebyg i du menw i siop yn ein Labordy Arsylwi a gofynnom i ddarpar gwsmeriaid asesu cynhyrchion Kenwood a chystadleuwyr yn erbyn eu hanghenion eu hun i ddatgelu sut roedd dyluniad ffisegol, deunyddiau, a nodweddion yn dylanwadu ar eu penderfyniadau. Gwelsom faint roeddent yn rhyngweithio’n ffisegol â’r cynhyrchion i asesu ansawdd, yna codio eu hymddygiadau i ddarganfod y mannau cyswllt mwyaf cyffredin â chynnyrch.

ARSYLWI AR GYNHYRCHION AR WAITH
Dangosodd yr ymchwil gychwynnol fod gan ddefnyddwyr rai disgwyliadau am eu cynhyrchion, ond dywedodd adolygiadau a datganiadau data wrthym nad oeddent yn fodlon bob tro. Cyflenwom cynhyrchion i ddefnyddwyr, arsylwi arnynt yn ei agor a’i ddefnyddio am y tro cyntaf i gipio’r profiad. Cawsom ddealltgwriaeth gyfoethog o sut roeddent yn defnyddio, yn glanhau ac yn storio’r cynhyrchion, beth berodd rwystredigaeth iddynt a sut bodlonodd y cynhyrchion eu disgwyliadau.

CREU CYSYNIAD
Delweddwyd yr ymchwil hon gan fap mawr o daith cwsmer, a nododd fanylion pob cam a man cyswllt taith defnyddiwr o nodi’r angen cychwynnol trwodd i’w ddefnyddio a’i storio am y tro cyntaf. Gadawodd hyn i ni ddatblygu ystod o gysyniadau dylunio cynnyrch a gwasanaeth ar sail mewnwelediadau, yn ogystal â meysydd cyfle eraill a amlygwyd i Kenwood wella profiad cwsmeriaid o’i gynhyrchion cegin.
Roedd gweithio gyda PDR yn brofiad gwych ac mae allbwn y gwaith yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw wrth ddiffinio cynhyrchion newydd yn Kenwood.
RHEOLWR ARLOESI | KENWOOD LIMITED
