Strategaeth y Rhyngrwyd Pethau
Kenwood
Gwelodd Kenwood godiad y Rhyngrwyd Pethau (IoT) fel cyfle i wthio ei gynhyrchion yn eu blaen a defnyddiodd ni i nodi anghenion pennaf defnyddwyr a ddylai weithredu’n sbardun tu ôl i’r arloesiad technolegol o fewn ei gynhyrchion.
WEDI'I LYWIO GAN DUEDDIADAU'R DYFODOL
Roedd Kenwood yn deall bod dechrau gyda thechnoleg oedd y dull anghywir. Roedd arnynt eisiau dealltwriaeth drylwyr o’r anghenion cymdeithasol ac unigol y gallai cynhyrchion a gwasanaethau wedi’u galluogi gan IoT ymateb iddynt. Cyfunom ni ymchwil ddesg i nodi tueddiadau’r dyfodol o ran y gegin a thechnoleg yn gyntaf, gydag amrywiaeth o dulliau ymchwil personol ac astudiaethau gyda defnyddwyr presennol a ‘mileniaid’ – defnyddwyr y dyfodol sydd wedi eu magu yn yr oes ddigidol.
YSBRYDOLWYD GAN ANGHENION DEFNYDDWYR
Cyfunom ymchwil ddylunio ac astudiaethau’r dyfodol drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau a gynhwysodd holiaduron, dylunio cyfranogol, arsylwi mewn cyd-destun a gweithdai creadigol.
Trionglwyd canlyniadau’r astudiaethau hyn i ddatgelu rhwystrau, baglau a phryderon mewn perthynas â pharatoi, coginio bwyd, a chyflwyno bwyd. Edrychod dy rhain hefyd ar ddefnydd effeithiol cegin ac anghenion a gofynion y dyfodol a allai gael eu cyflenwi trwy ddefnyddio IoT yn briodol.
SAFLE STRATEGOL NEWYDD
Defnyddiwyd y mewnwelediadau cyfoethog ac ystyrlon hyn wedyn i ddarparu atebion unigol am gynhyrchion a gwasanaethau a fydai’n ymdrin yn uniongyrchol ag anghenion a dymuniadau eu defnyddwyr. O edrych arnynt yn gronnus, cafodd y mewnwelediadau hyn eu defnyddio i nodi thema drosfwaol a strategaeth sylfaenol am ddatblygiad cynhyrchion ar gyfer y genhedlaeth mileniaid sydd wedi cael eu mabwysiadu gan Kenwood.
CANLYNIADAU
- Cysyniadau cynnyrch a gwasanaeth unigol wedi’u galluogi gan IoT
- Strategaeth fwaol am gymhwyso’r IoT am y genhedlaeth nesaf o ddefnyddwyr.