System EES
Timesco Ltd
Mae’r amrediad laryngosgopau Energy Efficient System (EES) yn disodli offer metel traddodiadol a thechnoleg batri celloedd sych â dolenni polymer arloesol ac ystod o ‘beiriannau’ sy’n addas ar gyfer gwahanol amgylcheddau.
Nid yw dolenni dur gwrthstaen traddodiadol wedi newid am 50 mlynedd. Mewn gwledydd sy’n datblygu, mae cost, argaeledd ffynhonnell ynni a phroblemau ailddefnyddio /sterileiddio yn arwain yn arwyddocaol at wastraffu arian ac adnoddau a risg uwch o groesheintio.
SYSTEMS DYUNIO APPROACH
Mae amrediad newydd EES yn ymdrin â’r problemau hyn drwy ystod o ddolenni a ‘pheiriannau’ arloesol a all gael eu cyfuno i greu atebion cost isel ar draws ystod o gymwysiadau ac amgylcheddau. Mae’r dewisiadau sydd ar gael yn yr amrediad, o ddolenni allanol tafladwy un-tro ar y cyd â ffynhonnell ynni ailddefnyddiadwy wedi’i bwerdu’n ginetig, heb ddibynnu ar fatris trwodd i ddolen allanol gwydn, ansawdd uchel sy’n addas am sterileiddio ailadroddus mewn awtoclaf gyda pheiriannau ailwefradwy neu hunan-bweru, yn dod â dimensiynau newydd i ddewis defnyddwyr. Mae arloesiadau a phatentau niferus ynghlwm wrth y dyfeisiau gydag Eiddo Deallusol wedi’i gofrestru am y dyluniadau, generadu, a rheoli ynni.
DYLUNIO ARLOESOL AR GYFER GWEITHGYNHYRCHU
Sicrhaodd atgynhyrchu ffurf laryngosgopau presennol ar yr un pryd â chreu estheteg newydd, sy’n briodol i’r cam ymlaen a gymerwyd, fwy o dderbyniad gan farchnad sy’n adnabyddus am fod yn draddodiadol ei ymateb i ffurfiau newydd ac yn arbennig defnydd polymerau dros fetelau mwy traddodiadol.
GWELL YMARFEROLDEB
Ymarferoldeb yw’r flaenoriaeth bennaf mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol yn aml. Mae defnyddioldeb, ymarferoldeb cynhenid a dibynadwyedd y dyfeisiau wedi cael eu derbyn yn dda. Cryfder allweddol y system yw ei chymhwysiad mewn marchnadoedd gofal iechyd datblygedig ac sy’n datblygu a’i bod yn lleihau risg croesheintiad heb gyfaddawdu dyluniad nac ansawdd.