dot.
CYSYNIAD PDR
Mae teithio anodd a straenus i glinigau yn cael ei ddileu gyda dot. a chyda chyfnodau monitro estynedig, mae’r gallu i ganfod dangosyddion prin ond pwysig sydd angen ymyrraeth glinigol wedi’i gynyddu’n sylweddol.
DYLUNIAD GAN FAMAU
Mae dot. yn system sydd yn y bôn wedi’i dylunio i leihau straen a phryder i famau sydd o bosibl mewn risg uwch o gymhlethdodau.
Mae dot., sy’n cael ei bresgripsiynu gan glinigydd, yn cael ei ddosbarthu drwy’r post ac yn cynnwys popeth mae ei angen ar gyfer monitro a gofal cynenedigol o bell o’r radd flaenaf.
Mae camau ymlaen yn natblygiad electroneg cost isel a synwyryddion, ochr yn ochr â manteisio ar strwythurau cyfathrebu symudol byd-eang sefydledig mewn gwledydd datblygedig a’r rhai sy’n dal i ddatblygu, yn caniatáu’r ymagwedd chwyldroadol, newydd hon at ofal cynenedigol ar gyfer mamau â risg uwch.
Mae’r uned yn cynnwys chwiliedydd uwchsain amledd-isel sy’n gallu canfod cyfraddau calon y ffetws a’r fam a llif gwaed y bogsail yn ystod beichiogrwydd ynghyd â phopeth arall mae ei angen ar gyfer monitro cartref.
FY SEFYDLU
I’w ddefnyddio, mae’r fenyw feichiog yn gosod y chwiliedydd tu mewn i’r rhan allanol rwber gyda phad hunan-lynol ynghlwm. Mae symud y chwiliedydd dros y bol yn pennu’r man gorau i’w lynu, danarweiniad yr ap ffôn. Yna mae’r fam yn tynnu ac yn glynu’r pad ymlynol wrth ei bol ac yn cadarnhau’r ymyiniad i’r app. A dyna hi, am hyd at 48 awr o fonitro di-dor.
FY NGWEFRU
Er mwyn ailwefru rhwng cyfnodau monitro, mae’r uned gyfan yn cael ei snapio ar ei ben ac yn cael ei ddal yn fagnetig yn ystod gwefru.