UMIKO
Cysyniad PDR
Mae pandemig Covid wedi cynyddu eu defnydd yn esbonyddol ac mae masgiau wyneb yn debygol o barhau yn rhan o'n bywydau bob dydd am flynyddoedd lawer. Dangosir gan astudiaeth o 2021 ein bod ni’n defnyddio 12.9 biliwn o fasgiau wyneb y mis neu tua 3 miliwn y funud, sy’n syfrdanol.
Teflir y mwyafrif helaeth o fasgiau wyneb, ac amcangyfrifir bod 75% yn mynd i safleoedd tirlenwi neu’n gwneud llanast o’n cefnforoedd, cefn gwlad ac ardaloedd trefol. Mae gweld gwastraff masgiau wedi’u taflu bellach yn gyffredin ym mhob lleoliad ar draws y byd ac mae ei effaith ar yr amgylchedd yn sylweddol.
Mae ymchwilwyr o Goleg Prifysgol Llundain yn amcangyfrif pe byddai pob person yn y DU yn defnyddio dim ond un masg untro bob dydd am flwyddyn, y byddai hynny'n creu 66,000 o dunelli o wastraff plastig ar ei ben ei hun.
Mae’r masgiau wyneb tafladwy presennol wedi'u gwneud o bolypropylen a metel ac maen nhw’n cymryd hyd at 450 o flynyddoedd i ddadelfennu, gan ryddhau dros 170 miliwn o ficroffibrau a gronynnau yn y broses. Mae diogelu heb greu niwed amgylcheddol yn nod hanfodol os ydym am fynd i'r afael â phandemigau'r dyfodol yn llwyddiannus heb wneud difrod amgylcheddol sylweddol ar yr un pryd.
Masg wyneb diogelwch yw UMIKO sydd wedi’i gynllunio i’w gynhyrchu am gost isel ar raddfa fawr, gan ddefnyddio deunydd arloesol, cwbl gynaliadwy o algâu’r môr, sy'n diraddio’n llwyr mewn dŵr cyn pen saith diwrnod o’i waredu heb unrhyw effaith gweddilliol.
Mae'n seiliedig ar ddeunydd arloesol sy'n defnyddio algâu’r môr a môr-wiail wedi'u cynaeafu'n gynaliadwy i gynhyrchu ffibr y gellir ei nyddu a'i wehyddu yn ddalennau fflat yn hawdd. Yn allweddol, nid yw'r deunydd yn gadael unrhyw weddillion gwenwynig, nid yw'n niweidio bywyd morol nac anifeiliaid nac yn allyrru unrhyw ficro-ronynnau parhaol. Gellir addasu priodweddau’r deunydd gan ddefnyddio lefelau o bolysacaridau a echdynnwyd gan deilwra graddau hydoddedd y deunydd mewn dŵr. Bwriad hyn yw caniatáu defnydd lleithder uchel heb ddirywiad am hyd at 48 awr, ond bydd yn hydoddi'n llwyr ymhen wythnos neu cyn pen 5 – 6 awr pan gaiff ei soddi.
Mae'n hanfodol bod masgiau tafladwy ar gael i bawb, a gellir cynhyrchu'r deunydd dalen fflat wedi'i wehyddu a'i nyddu ar raddfa fawr gyda digon o briodweddau hidlo i weithredu fel diogelwch effeithiol yn erbyn trosglwyddiadau a gludir gan feirysau.
Gan fabwysiadu gweithgynhyrchu cost isel a chyflym o'r diwydiannau papur a phecynnu, mae UMIKO wedi'i ddylunio i gael ei blygu o un darn fflat o ddeunydd. Mae masgiau a dorrir gan ddei yn lleihau costau cynhyrchu ac yn lleihau’r maint a’r pwysau ar gyfer dosbarthu a thrafnidiaeth.
Fe’i cyflenwir mewn swmp fel pentwr o ddalennau fflat, gellir ffurfio masgiau unigol yn gyflym a'u gosod ar wyneb defnyddiwr gyda’r gwastraff a’r ymdrech lleiaf.
Mae’r masgiau wedi'u dylunio i fod yn ysgafn a chyfforddus gyda rhywfaint o hidliad ac anadladwyedd yn debyg i’r masgiau N95 presennol. Mae’r natur addasadwy dros bont y trwyn a'r wyneb o ganlyniad i hydrinedd cynhenid y deunydd ac mae dolennau wedi'u dylunio'n glyfar yn sicrhau ffit dynn o amgylch y clustiau.
Mae UMIKO’n ateb unigryw i broblem amgylcheddol sylweddol wrth ddefnyddio masgiau wyneb tafladwy. O'u cyfuno â gweithgynhyrchu ar raddfa fawr ac atebion dylunio ‘fflat i ffurf’ syml presennol, gall ffyrdd newydd o drin deunyddiau a phrosesau sicrhau bod gofynion swyddogaethol, defnyddioldeb ac amgylcheddol yn cyd-fynd â’i gilydd.
Mae datblygu masg wyneb sy'n rhoi’r diogelwch gofynnol heb achosi'r difrod amgylcheddol a grëir gan fasgiau polypropylen presennol, yn her ddylunio sylfaenol sy'n nodweddiadol o'r angen i symud at fodel mwy cynaliadwy o ddylunio.