Yn Cyflwyno Llyfrgell Lliwiau, Deunyddiau a Gorffeniad PDR
Mae Dylunio Lliwiau, Deunyddiau a Gorffeniad yn archwilio’r defnydd o liw, deunydd, gwead a phatrwm i gyfleu hunaniaeth cynnyrch. Gellir defnyddio penderfyniadau LlDG i wella profiad defnyddwyr o gynnyrch neu ofod – i adrodd stori neu ennyn teimlad.
Roedd hi’n hanfodol creu gofod lle gallwn gyfathrebu gwahanol ddewisiadau lliw, deunydd a gorffeniad yn hawdd rhwng ein timau dylunio a chleientiaid. Mae’r llyfrgell yn cynnwys casgliad cynhwysfawr o samplau’n cwmpasu categorïau deunydd gwahanol. Mae hefyd yn cynnwys mannau cylchdröol sy’n dangos y newyddbethau diweddaraf yn y diwydiant ac adnoddau i’n dylunwyr gadw i fyny â’r deunyddiau sydd ar flaen y gad ac ystyried sut y gellir eu cymhwyso i’n proses ddylunio.
Yn ein fideo diweddaraf, mae Katie Forrest Smith, Dylunydd LlDG, yn ein tywys ar daith ac yn dangos rhai o’r deunyddiau sydd wedi’u storio yn ein llyfrgell gynyddol.