Dom a Will i fynychu cynhadledd argraffu 3D Rapid & TCT yn LA
Yr wythnos nesaf bydd ein Cynllunydd Cynnyrch Cyswllt PTG Will Dauncey, ynghyd â'i oruchwyliwr yr Athro Dom Eggbeer, yn teithio i Los Angeles ar gyfer cynhadledd argraffu 3D RAPID & TCT .
Fel rhan o gynllun Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, mae Will yn rhannu ei amser rhwng V-Trak, cwmni o Ben-y-bont ar Ogwr sy’n arbenigo mewn technoleg seddi cadair olwyn, a PDR, lle mae Dom yn oruchwyliwr.
Mae rôl Will wedi ei weld yn gweithio ar brosiectau arloesol yn V-Trak sy'n cynnwys defnyddio technoleg argraffu 3D blaengar i wella'r strwythurau dellt mewn offer cynnal cefn i’w gwneud yn gyfforddus, ac i gefnogi osgo a lleddfu pwysau. Darllenwch fwy am waith Will yn V-Trak yma.
Fel digwyddiad argraffu 3D mwyaf y byd, mae Rapid & TCT yn rhoi cyfle gwerthfawr i'r pâr gryfhau eu cysylltiadau â'r diwydiant argraffu 3D ehangach a'i arweinwyr. Bydd y daith hefyd yn cynnwys dal i fyny gyda grŵp Permobil USA, partner i V-Trak ac arweinydd byd yn y diwydiant cadeiriau olwyn.
Mae hyn, ynghyd ag amserlen lawn y gynhadledd o ddarlithoedd gan siaradwyr arbenigol, arddangosfeydd o’r datblygiadau diweddaraf a gweithgareddau addysgol, yn sicrhau y bydd y daith yn gyfle cadarnhaol i Will a Dom ymgolli yn natblygiadau diweddaraf y diwydiant argraffu 3D a chryfhau cysylltiadau ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.