Rydyn ni wedi ennill dwy Wobr iF!
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi ennill dwy wobr yng Ngwobrau Dylunio iF eleni. Y prosiectau buddugol oedd dyfais monitro ansawdd dŵr Hydrobean a chadair withio i fabanod ReGen.
HYDROBEAN
Dyfais monitro dŵr yw Hydrobean a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd y gellir ei osod mewn afonydd i fesur a chyfleu eu hansawdd yn barhaus. Ar hyn o bryd, credir nad yw gwaith monitro ansawdd dŵr y cyrff rheoleiddio ar draws dalgylchoedd afonydd y DU yn darparu dealltwriaeth ddigonol o gyflwr afonydd. Hydrobean yw'r synhwyrydd ansawdd dŵr rhad cyntaf sydd wedi'i gynllunio'n benodol i'w ddefnyddio gan wyddonwyr dinasyddion.
Dywedodd Liz Bagshaw o Brifysgol Caerdydd: “Mae’r dyluniad yn arloesol ac yn hynod addas ar gyfer yr amgylchedd, gan ddefnyddio dull gwahanol iawn i systemau eraill sydd ar gael. Mae’n hawdd ei ddefnyddio ac yn perfformio’n dda, ac ni allwn aros i osod mwy allan yn ein hafonydd.” Ychwanegodd Mike Prior-Jones: “Roedd yn bleser mawr gweithio gyda PDR Design ar y prosiect hwn. Rydym yn gobeithio y bydd yr offeryn arloesol hwn yn galluogi llawer o gymunedau lleol i fonitro eu hafonydd a'u nentydd mewn modd cost-effeithiol.
REGEN STROLLER
Mae'r ReGen Stroller yn gysyniad a ddatblygwyd ar gyfer iCandy i fynd i’r afael a’r ffaith bod 95% o gadeiriau gwthio i fabanod yn mynd i safleoedd tirlenwi o fewn tair blynedd i'w prynu. ReGen yw'r cadair gwthio cwbl gylchol, cynaliadwy cyntaf a ddyluniwyd ar gyfer cenhedlaeth y dyfodol o ddefnyddwyr sy'n gosod ystyriaethau cymdeithasol ac amgylcheddol wrth wraidd eu pryniant heb gyfaddawdu ar ymarferoldeb, estheteg na gwerth. Dywedodd Paul Walker, Cyfarwyddwr Cynnyrch a Dylunio iCandy: “Yn iCandy, rydyn ni’n credu y gall bod yn rhiant a bod yn gynaliadwy fynd law yn llaw, ac mae cydweithio â PDR ar brosiect sy’n adlewyrchu mor berffaith ein hangerdd i ddyrchafu taith bod yn rhiant trwy arloesi, arddull a’r safonau ansawdd uchaf, wedi bod yn hynod gyffrous. Mae’r creadigrwydd gwych a ddangoswyd gan y tîm PDR wrth ddatblygu ReGen yn cyfuno dyluniad blaengar ag arferion amgylcheddol gyfrifol, gan fynd i’r afael â’r angen cynyddol am atebion cynaliadwy yn y diwydiant meithrinfeydd, ac mae wedi arwain at Wobr fawreddog iF hynod haeddiannol. Ni allem fod yn fwy balch o fod wedi bod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn.”
YNGLYN Â’R GWOBRAU
Ers 70 mlynedd, mae GWOBRAU DYLUNO iF wedi cael ei ystyried yn un o wobrau mwyaf arwyddocaol y diwydiant ac yn feincnod dylunio o ansawdd uchel. Mae'n dathlu cyflawniadau rhagorol ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys dylunio cynnyrch, pecynnu, cyfathrebu a gwasanaeth, yn ogystal â phensaernïaeth, pensaernïaeth fewnol, cysyniad proffesiynol, profiad y defnyddiwr (UX), a dylunio rhyngwyneb y defnyddiwr (UI).
Mae gennym hanes balch o ennill gwobrau Dylunio iF ac rydym wedi cael ein rhestru fel Gorau’r Deyrnas Unedig 2019 – 2023. Yng ngoleuni’r newyddion am fuddugoliaethau eleni, roedd gan ein Cyfarwyddwr Jarred Evans y canlynol i’w ddweud:
“Rydym yn hapus iawn ein bod wedi ennill dwy wobr yng Ngwobrau Dylunio iF eleni. Rydym yn arbennig o falch o gael ein cydnabod am ddau brosiect gwahanol iawn yn Hydrobean a ReGen Stroller, sy'n dyst i'r sgiliau amrywiol sydd gennym o fewn y tîm.
Mae Hydrobean yn enghraifft arall o'n gwaith gwych gyda busnesau newydd a phrifysgolion, gan wireddu technolegau a all wneud gwahaniaeth diriaethol i'r byd. Roedd y ReGen Stroller yn wirioneddol ein herio i gynhyrchu cynnyrch gwirioneddol gylchol, cynaliadwy. Roedd y gwersi a ddysgwyd o hyn yn sylweddol ac mae’r disgyblaethau a’r arbenigedd dilynol rydym wedi’u datblygu wedi helpu i gynhyrchu datrysiad sy’n dangos bod cynaliadwyedd yn sbardun i arloesi ac nid yn rhwystr iddo.”
Edrychwn ymlaen yn awr at gasglu'r gwobrau a dathlu gyda'r ennillwyr eraill yn Noson Wobrwyo iF yn Berlin ar 29 Ebrill 29.
Y CAMAU NESAF
I ddarganfod mwy am ein prosiectau yn PDR, cliciwch yma. Neu cysylltwch i drafod prosiect posib.