Rydym ni’n mynd i Ŵyl Design for Planet
Yr wythnos nesaf bydd ein Cyfarwyddwr Jarred Evans, a'r Cyfarwyddwr Ymchwil Andy Walters, yn mynd i Fanceinion ar gyfer y Cyngor Dylunio Wŷl Design for Planet. Dyma 4edd flwyddyn o gynnal y digwyddiad, ac eleni mae'n garreg filltir, arbennig o arwyddocaol, ar y llwybr tuag at Gyngres Dylunio'r Byd yn Llundain 2025, sy'n cynnwys Design for Planet fel thema allweddol.
Mwy am Ŵyl Design for Planet:
Yn ôl y wefan: “Bwriad y Cyngor Dylunio yw Dylunio er budd y Blaned, dylunio ein ffordd i fyd sero net a thu hwnt. Mae Gŵyl Design for Planet yn ddigwyddiad blynyddol, blaenllaw, sy'n helpu i yrru'r genhadaeth hon. Ei nod yw dod â dylunwyr, busnesau a llunwyr polisi at ei gilydd i gysylltu, ysbrydoli a helpu i wireddu thema Busnes Positif i’r Blaned eleni. Drwy fynychu'r ŵyl, ein nod yw cynyddu eich dealltwriaeth a'ch galluoedd o ran sut i ddylunio'n ymarferol ar gyfer y blaned. Yn wyneb yn wyneb ac yn rhithwir yn rhad ac am ddim.”
Gweithio ar Adroddiad Green Design Skills Gap
Yn ogystal â rhestr lawn o siaradwyr byw, dadleuon a thrafodaethau, mae'r ŵyl hefyd yn gofalu am ryddhau datganiadau astudiaeth achos o'n prosiect ymchwil presennol yr Economi Dylunio sy'n canolbwyntio ar werth amgylcheddol a chymdeithasol dylunio. Mae rhai o'r canlyniadau eisoes wedi'u cyhoeddi yn adroddiad y Cyngor Dylunio, y Green Design Skills Gap, astudiaeth ar fewnwelediadau o raddfa a sgiliau dylunio amgylcheddol yn y DU. Mae'r adroddiad yn tynnu ar ganlyniadau arolwg ar werth amgylcheddol a chymdeithasol dylunio yn y DU, a gynhaliwyd fel prosiect cydweithredol rhwng ein tîm ymchwil dylunio yma yn PDR a'r Cyngor Dylunio. Gallwch ddod o hyd i'r adroddiad yma.
Cadwch lygad allan am ragor o ddiweddariadau a hanes y daith yn ein cylchlythyr, ar ôl dychwelyd o Fanceinion.
Dysgwch fwy am ein gwaith polisi dylunio yma.