We are attending the upcoming 2023 IFSEC International event
Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Anthony McAllister a Michelle Letherby yn mynychu'r digwyddiad IFSEC International sydd ar ddod, y digwyddiad diogelwch mwyaf yn y DU, a gynhelir yn ExCel Llundain rhwng 16-18 Mai 2023. Gobeithiwn eich gweld chi yno!
Y digwyddiad IFSEC yw'r cynulliad mwyaf o weithwyr proffesiynol y diwydiannau diogelwch ffisegol a diogelwch tân. Mae'n darparu seminarau ar y cynhyrchion diweddaraf, yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio rhagorol. Mae ISFEC yn cynnal pedwar digwyddiad cydamserol sy'n ymwneud â rheoli cyfleusterau, iechyd a diogelwch, diogelwch tân, adeiladau craff, a diogelwch.
Mae mynychu'r digwyddiad hwn yn gyfle cyffrous gan fod PDR wedi gweithio gyda llawer o gwmnïau yn y sector diogelwch. Fel y dywed Anthony, “Rydym wedi bod yn mynychu'r digwyddiad hwn ers blynyddoedd; mae’n cynnig digon o gyfleoedd i rwydweithio, meithrin cysylltiadau a chael y wybodaeth ddiweddaraf am y technolegau diweddaraf yn y diwydiant hwn.”
Dros y blynyddoedd, mae PDR wedi bod yn gweithio ar ystod amrywiol o brosiectau diogelwch sy'n cynnwys:
System Larwm Tân (Panel Tân Cyfnewidiadwy)
Mae cynhyrchion canfod tân Rafiki yn fwy datblygedig yn dechnolegol na llawer o gwmnïau larwm tân eraill. Mae ystod amddiffyn tân gynhwysfawr Rafiki hefyd yn cynnwys synwyryddion mwg deallus, seinyddion, pwyntiau galw â llaw a phaneli rheoli.
Thales (TRT UK Ltd)
Mae Thales Group yn gwmni rhyngwladol o Ffrainc sy'n dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu systemau trydanol yn ogystal â dyfeisiau ac offer ar gyfer y sectorau awyrofod, amddiffyn, trafnidiaeth a diogelwch.
Bu PDR yn gweithio gyda Thales (TRT UK Ltd) ar NuVa, desg ryngweithiol sy'n adeiladu ar ein ffordd naturiol o weithio. Mae'n cyfuno cyfathrebu fideo a sain o ansawdd uchel gyda gofod desg hawdd ei ddeall a’i ddefnyddio ar gyfer rhannu dogfennau, fideos a gwybodaeth trwy ryngwyneb beiro a bysellfwrdd cyfarwydd. Gellir defnyddio hwn ar gyfer ysgrifennu, braslunio a chyfathrebu'n naturiol ac yn ddiogel mewn amser real gan leihau'r angen am deithio a chynyddu cynhyrchiant ac ansawdd bywyd.
Mas Zengrange - System Ddiogelwch
Mae MAS Zengrange yn gwmni sy'n arbenigo mewn dylunio, cynhyrchu a chyflenwi Systemau Rheoli Tân o Bell ar gyfer y Farchnad Amddiffyn.
Rydym hefyd wedi gweithio ar brosiect Rig Olew Môr y Gogledd yn ogystal â gyda SS&T (Secure Systems and Technologies).
We are excited to have the chance to attend this event, network with potential clients, and learn from other organisations in this industry.
If you see Michelle and Anthony there, be sure to say hi!
Next steps
Discover more about PDR or contact us to discuss a product idea.