Ailddychmygu Gofodau: Sut rydym yn creu amgylcheddau ystyrlon
Beth yw dyluniad 'da' o ran gofodau ac amgylcheddau? Mae dylunio gofodol yn gymharol newydd i'n portffolio yn PDR. Mae'n canolbwyntio ar grefftio amgylcheddau dynol gyda phwyslais ar sut mae gofodau'n teimlo, y ffordd rydym yn rhyngweithio â nhw, a'u potensial i wella bywydau'r rhai sydd ynddynt. Yn y blog hwn mae Arbenigwr Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, Catriona Mackenzie, yn diffinio Dylunio Gofodol ac yn siarad trwy ein dull defnyddiwr ganolog o greu amgylcheddau.
Diffinio Dylunio Gofodol
Yn y bôn, mae dylunio gofodol yn ymwneud â chreu neu ailgynllunio amgylcheddau mewnol ac allanol. Mae'n ymchwilio'n ddwfn i daith y defnyddiwr trwy'r gofod, eu rhyngweithio ynddo, a sut mae'r amgylchedd yn gwneud iddynt deimlo.
Sut olwg sydd ar Ddylunio Gofodol da?
Mae dylunio gofodol da yn ystyried estheteg yn ofalus ond mae hefyd yn darparu ar gyfer anghenion amrywiol grwpiau defnyddwyr sy'n dod i gysylltiad â'r gofod, gan sicrhau bod y gofod yn hygyrch, yn swyddogaethol ac yn ymatebol i ddymuniadau ac anghenion gwahanol ddefnyddiwr. Mae'r broses yn cynnwys ennill dealltwriaeth fanwl o'r amgylchedd ei hun, y gwasanaethau cysylltiedig sydd angen gweithredu ynddo a'r cynulleidfaoedd a fydd yn rhyngweithio â'r gofod. Yn PDR, rydym yn ymgorffori sgiliau ein timau dylunio sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, diwydiannol a chynhyrchion i fynd i'r afael â'r prosiectau hyn a chreu amgylcheddau ystyrlon.
Mae Catriona yn pwysleisio, "Dylai gofod da gael effaith gadarnhaol ar y bobl sy'n dod i gysylltiad ag ef."
Prosiectau Dylunio Gofodol Diweddar yn PDR
"Rydym wedi gweithio'n agos gydag Amgueddfa Cymru ar ychydig o brosiectau Dylunio Gofodol." Mae rhai o'r prosiectau hyn yn cynnwys:
- Bywyd Richard Burton: Arddangosfa yn dilyn hanes Richard Jenkins drwy ei ddyddiaduron personol ac archifau ar sut y daeth yn Richard Burton, seren ryngwladol y llwyfan a'r sgrin.
- Ar garreg eich drws: Arddangosfa gyda'r nod o ysbrydoli mwy o ddiddordeb mewn amgylchedd ac amgylchoedd lleol yn dilyn y cyfyngiadau teithio yn ystod pandemig 2020.
"Rydym yn falch o'n dull dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, yr ydym yn ei ddefnyddio ar draws prosiectau dylunio cynnyrch, gwasanaeth a dylunio gofodol hefyd. Ar gyfer y prosiectau hyn fe wnaethom greu gweithdai sy'n dod â rhanddeiliaid o wahanol feysydd at ei gilydd i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Roedd hyn yn ein galluogi i greu dyluniadau sy'n cyd-fynd ag uchelgeisiau ac anghenion y rhai sy'n cymryd rhan."
Sut y gall y prosiectau hyn fod yn fwy cynaliadwy sy’n cael effaith barhaol ar gleientiaid?
Yn ogystal â sicrhau bod ystod eang o gynulleidfaoedd yn fodlon, mae heriau eraill yn gysylltiedig â dylunio arddangosfeydd dros dro fel y gost a'r amser sy'n gysylltiedig ag adeiladau newydd a gwastraff a gynhyrchir pan fydd yr arddangosfa drosodd.
"Mae wastad her gwastraff mewn prosiectau fel hyn. Wrth i ni barhau i weithio yn y maes hwn, rydym yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio cynaliadwyedd fel egwyddor arweiniol, i leihau gwastraff, a throsoli adnoddau presennol i greu atebion sy'n ymwybodol o'r amgylchedd. Y nod yw saernïo dyluniadau addasadwy, gan leihau ôl troed amgylcheddol pob prosiect."
"Enghraifft wych o hyn yw sut mae Amgueddfa Cymru wedi gallu ail-bwrpasu rhannau o'n dyluniad ar gyfer "Ar Garreg eich Drws" yn Oriel y Parc a rhoi bywyd newydd iddo ar gyfer eu harddangosfa gyfredol, "Geiriau Diflanedig – The Lost Words", sy'n archwilio'r berthynas rhwng iaith a natur."
Beth sydd nesaf ar gyfer PDR o ran Dylunio Gofodol?
Mae Catriona yn rhannu, "Hoffem barhau i weithio ar arddangosfeydd, gofodau masnachol a phrosiectau dylunio gofodol eraill, gan ystyried yn ofalus y cynulleidfaoedd yn y gofodau rydym yn eu creu yn ogystal â ffyrdd o leihau effaith amgylcheddol. Gyda'n cyfuniad unigryw o wybodaeth dylunio, diwydiannol a dylunio cynnyrch sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn ogystal â'r gallu hwnnw sy'n ehangu mewn dylunio amgylcheddol, rydym mewn sefyllfa dda iawn i fynd i'r afael â phrosiectau fel y rhain o lawer o onglau gwahanol."
Y CAMAU NESAF
Dysgwch fwy am ein gwaith neu os oes gennych syniad yr hoffech ei drafod, cysylltwch â ni.