Pam mae braslunio'n dal yn bwysig yn yr 21ain ganrif?
Er gwaethaf ymgorffori technoleg a meddalwedd digidol yn gadarn o fewn y broses greadigol, mae braslunio'n dal i chwarae rhan allweddol yn y ffordd rydym yn datblygu dyluniadau.
P'un a ydym yn cynhyrchu brasluniau cyflym i ddatblygu ffurf a swyddogaeth syniad neu'n dangos bwrdd stori i ddisgrifio cynnyrch neu wasanaeth, mae brasluniau'n caniatáu i ddylunydd archwilio nifer o syniadau cyn penderfynu a yw syniad yn werth ei ddilyn.
Yn ein fideo diweddaraf, mae Carmen Wong, Uwch Ddylunydd Diwydiannol, yn archwilio gwerth braslunio a pham ei fod yn dal mor bwysig wrth ddatblygu prosiect yn yr 21ain ganrif.