Mae Arddangosfa Richard Burton nawr ar agor yn Amgueddfa Cymru!
Rydyn ni’n hynod falch o rannu’r newyddion bod arddangosfa Amgueddfa Cymru, ‘Bywyd Richard Burton’, nawr ar agor i’r cyhoedd! Gyda dyluniad newydd wedi’i addasu sy’n COVID-gyfeillgar, mae’r arddangosfa’n rhedeg hyd at Hydref 2021.
Ers yn gynnar yn 2020, bu PDR yn gweithio ar ddylunio a gweithredu’r arddangosfa, ochr yn ochr â’r Rheolwr Arddangosfeydd Teithiol, Ashley McAvoy.
Pan gaewyd digwyddiadau ledled y byd gan COVID-19, bûm yn gweithio ag Ashley i addasu’r arddangosfa er mwyn sicrhau y gallai fod yn COVID-gyfeillgar, gan agor y gofod ac ailstrwythuro ‘llif’ yr ymwelwyr.
Yn ein fideo diweddaraf, mae’r Rheolwr Arddangosfeydd Teithiol, Ashley McAvoy, yn esbonio sut y daeth yr arddangosfa hon yn fyw; trwy gyfnod cythryblus o ddigwyddiadau wedi’u canslo a chyfyngiadau newydd, mae ‘Bywyd Richard Burton’ yn dyst i benderfyniad tîm yr amgueddfa a hyblygrwydd y dyluniad.
I ddarganfod rhagor am sut y cwblhawyd yr arddangosfa, cymrwch olwg ar Bywyd Richard Burton.
Gallwch archebu eich tocynnau ar y wefan swyddogol.