Byw ar Fin Dibyn Ymchwil Dylunio – Yr Athro Andrew Walters
Am y degawd diwethaf neu fwy, gofynnwyd yn gynyddol i ymchwilwyr ddangos effaith eu gwaith, wrth i gyllid ymchwil gyd-fynd yn gynyddol â ‘heriau’ yn hytrach na disgyblaethau.
Fel ymchwilydd, mae’r newid hwn yn gofyn inni ystyried anghenion a gwerthoedd nifer o randdeiliaid er mwyn creu newid cadarnhaol yn y byd go iawn. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ysgolheigion ystyried gofynion eu noddwyr â’u buddiolwyr yn ofalus y tu hwnt i’w chwilfrydedd academaidd eu hunain, a chasglu timau ymchwil ynghyd a all gyflawni briff.
Darlith Athrawol
Byw ar Fin Dibyn Ymchwil Dylunio – Yr Athro Andrew Walters
Dydd Iau 23 Mawrth 2023
Derbyniad Diodydd o 6yh ar gyfer dechrau am 6:30yh
Digwyddiad yn y cnawd yn unig (Cofrestrwch i fynychu)
Cofrestru i fynychu’r digwyddiad hwn
Bydd y ddarlith hon yn archwilio pam y gallai dylunio fod yn arbennig o addas i ymchwil ‘sy’n canolbwyntio ar broblemau’, gan dynnu ar enghreifftiau o yrfa sydd wedi cydbwyso datblygiadau ymchwil ac arloesi mewn cydweithrediadau’r sector preifat a chyhoeddus. Mae Andy Walters yn Athro Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, Cyfarwyddwr Ymchwil yn PDR ac yn Bennaeth yr Academi Fyd-eang ar gyfer Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl.
Mae Andy’n arwain ar y strategaeth ymchwil academaidd ar gyfer y Ganolfan ac yn goruchwylio ystod eang o brosiectau ymchwil a myfyrwyr doethurol. Mae ffocws ei ymchwil personol ar gymhwyso dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, yn arbennig o ran gwella hygyrchedd i ddylunio ac egwyddorion datblygu sy’n seiliedig ar y defnyddiwr. Mae Andy hefyd yn aelod o Golegau Adolygu gan Gymheiriaid AHRC ac EPSRC.
Gallwch weld allbynnau ymchwil Andy yma.