PDR yn ymddangos yn newdesign Yearbook 2021
Mae’r newdesign Yearbook yn dathlu ugain mlynedd ers ei gyhoeddi gyntaf, ac mae’n ymfalchïo yn ei draddodiad o wasanaethu a hyrwyddo’r diwydiant dylunio, gyda PDR unwaith eto yn ymddangos yn rhifyn newydd 2021.
Mae’r cylchgrawn wedi ennill ei phlwyf fel deunydd darllen angenrheidiol i unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r byd dylunio, gyda’i sylw i gynnyrch, arloesi, gwasanaethau a’r broses ddylunio yn ei holl ffurfiau. Mae’n llwyddo i gasglu’r straeon pwysicaf a mwyaf perthnasol sy’n effeithio ar y diwydiant yn y DU, ac ar hyd a lled y byd, ac mae’n llawn gwybodaeth am bobl, cynhyrchion a materion sy’n llywio’r diwydiant dylunio heddiw.
Mae’r cylchgrawn yn rhoi sylw i ymgyngoriaethau a thimau dylunio mwyaf adnabyddus y byd yn y maes dylunio, ac mae nid yn unig yn gyhoeddiad hanfodol ar gyfer y rhai sy’n rhan o’r diwydiannau creadigol, ond hefyd i gwmnïau sy’n defnyddio dylunio er mwyn cael mantais gystadleuol. Mae’n defnyddio dull amlddisgyblaethol gan gynnwys rhoi sylw i amrywiaeth o faterion perthnasol sy’n effeithio ar pob sector o’r maes dylunio fel cynaliadwyedd, brandio, datblygu cynnyrch, eiddo deallusol, deunyddiau, arloesi sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, gweithgynhyrchu ac ergonomeg.
Yn rhifyn 2021, mae cwmnïau a’r gymuned dylunio yn arddangos eu gwaith arbennig, yn archwilio tueddiadau’r diwydiant ac yn gosod yr agenda ar gyfer yr hyn fydd ar gael yn y dyfodol.
Mae fersiwn ar-lein o’r cylchgrawn, sy’n arddangos gwaith PDR ar gyfer Hydroxyl a Signifier Medical Technologies, ar gael yma.