Fy mlwyddyn gyntaf fel Dylunydd sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, gydag Iona Davis
Beth sy'n gwneud rhywbeth yn hawdd ei ddefnyddio? Mae'n anodd taro’r hoelen ar ei phen. Pan fydd cynnyrch neu wasanaeth wedi’i ddylunio gan gadw profiad y defnyddiwr mewn cof, nid ydym bob amser yn sylwi.
Mae'n llawer haws sylwi pan fydd rhywbeth yn anodd ei ddefnyddio.
Rydyn ni i gyd wedi profi meddalwedd galwadau fideo gymhleth, prosesau archebu rhwystredig a chyfarwyddiadau dryslyd ar sut i ddefnyddio teclynnau cegin newydd.
Yn aml, mae gwaith Dylunwyr sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr yn digwydd bron ynghudd y tu ôl i'r llenni, ac mae'n canolbwyntio ar y defnyddwyr a'u hanghenion.
Yn ein cyfweliad diweddaraf, mae Iona Davis, Dylunydd sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, yn trafod ei blwyddyn gyntaf yn y rôl yn PDR gyda ni…
Mae'n gysyniad a all helpu unrhyw fusnes i gyflawni rhagor o lwyddiant.
Iona Davis | DYLUNYDD SY’N CANOLBWYNTIO AR Y DEFNYDDIWR | PDR
Daeth Iona’n Ddylunydd sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr ar yr adeg pan oedd cyfnodau clo'r DU ar eu hanterth.
“Yn bendant, roedd gan addasu i weithio gartref ei rhwystrau,” esbonia Iona. “Gyda dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr (DCD), mae astudiaethau arsylwadol - sydd fel arfer yn digwydd yn y cnawd - yn gam allweddol o'r broses ddylunio.
“Bu’n rhaid inni droi’n gyflym at gynnal dadansoddi ar-lein. Yn rhyfeddol, bu hynny’n brofiad ysgubol o gadarnhaol; a dweud y gwir, mae gosodiad o bell wedi caniatáu inni gynnal astudiaethau sydd yr un mor fanwl â dulliau yn y cnawd, a, gellir dadlau, hyd yn oed yn fwy felly. ”
Ar y cyfan, bu blwyddyn gyntaf Iona yn DCD yn un dda: “Mae'r gwaith yn amrywiol iawn, ac rwy'n cael bod yn rhan o bob cam o'r broses ddylunio. Mae fy ngwaith yn ymarferol iawn, ac rwy'n cael profiadau newydd bob dydd."
Treuliodd Iona lawer o'i blwyddyn gyntaf yn gweithio ar brosiect mawr a oedd yn golygu cynnal nifer o gyfweliadau ac arolygon manwl yn asesu defnyddioldeb cynnyrch.
Gan fod y gwaith ar y prosiect hwn yn parhau, ni allai Iona ddatgelu gormod o wybodaeth amdano, ond rhoddodd gipolwg inni ar y broses: “Gydag asesiadau defnyddioldeb, rydyn ni’n archwilio problem ac yn ystyried llu o wahanol atebion, gan bwyso a mesur eu dichonoldeb ac, yn hollbwysig, eu gwerth i'r defnyddiwr terfynol.
“Ar ôl asesu llawer o opsiynau, rydyn ni’n dewis yr ateb gorau a, chan weithio gyda defnyddwyr a rhanddeiliaid, rydym yn ei fireinio nes ei fod yn mynd i’r afael ag anghenion defnyddwyr mewn ffordd sy’n werthadwy a phroffidiol.”
A phrosiectau'r dyfodol? “Rwy’n edrych ymlaen fwyaf at weithio ar ailgynllunio rhai dyfeisiau meddygol sydd eisoes yn bodoli,” meddai. “Byddaf yn canolbwyntio ar eu gwneud yn haws i'w defnyddio ac i ryngweithio â nhw. Byddaf yn ystyried profiad y gweithiwr meddygol proffesiynol a’r claf, a fydd yn dod â dimensiwn ychwanegol i'r broses ddylunio.
Rydyn ni'n archwilio problem ac yn ystyried llu o wahanol atebion, gan bwyso a mesur eu dichonoldeb ac, yn hollbwysig, eu gwerth i'r defnyddiwr terfynol.
Iona Davis | DYLUNYDD SY’N CANOLBWYNTIO AR Y DEFNYDDIWR | PDR
 chefndir mewn dylunio diwydiannol, mae Iona’n gyfarwydd iawn â mynd i’r afael â dylunio o wahanol safbwyntiau.
“Yn ddiweddar,” eglura, “rwyf wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm dylunio cynnyrch ar ddatblygu rhyngwyneb i gynnig mewnwelediad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Trwy gyfuno'r ddwy ddisgyblaeth hyn, rydym wedi gallu cydweithio i ddatblygu cynnyrch gwell."
Meddai Iona, “Wrth i bwysigrwydd DCD dyfu, mae angen i'r rhai ohonom sy'n gweithio mewn DCD floeddio am y cysyniad fel y gall cwmnïau ddeall y gwerth y mae'n ei roi i'w cynhyrchion a'u gwasanaethau.
“Mae llawer o bobl eisoes yn meddwl mewn ffordd sy'n cyd-fynd â dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr; ond nid ydynt yn ymwybodol ohono. Yn y dyfodol, gallaf weld mwy o gwmnïau'n cofleidio ffocws ar y defnyddiwr o ran dylunio; mae'n gysyniad a all helpu unrhyw fusnes i gyflawni rhagor o lwyddiant.”
CAMAU NESAF
Oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio dull Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr ar gyfer eich prosiect? Cymerwch olwg ar ein gwaith neu cysylltwch i drefnu trafodaeth.