Layr yn ennill Gwobr Ddylunio iF 2018
Gan barhau â chyfnod llwyddiannus iawn, mae PDR yn falch o gyhoeddi ei fod wedi ennill GWOBR DDYLUNIO iF 2018. Cyflwynwyd GWOBR DDYLUNIO iF ym 1953 a chaiff ei chydnabod ledled y byd fel meincnod uchel ei fri gyfer pennu llwyddiannau eithriadol mewn dylunio.
Bu panel o feirniaid rhyngwladol mawr eu bri yn asesu mwy na 6,400 o gynigion o 54 gwlad er mwyn penderfynu pwy fyddai’n ennill y sêl ragoriaeth chwennych hon yn 2018. Gwerthuswyd y cynhyrchion ar sail arloesedd, ymarferoldeb, ansawdd y dyluniad, deunydd, ergonomeg a chydnawsedd amgylcheddol, ymhlith meini prawf eraill, ac mae tîm PDR yn falch o gael dweud bod Layr wedi ennill GWOBR DDYLUNIO iF 2018.
‘Fflasg’ gathetr dros nos yw Layr. Fe’i cynigiwyd yn y categori Cysyniad Proffesiynol a dywedwyd ei bod yn llwyr haeddu label enwog iF.
Dyma a ddywedodd Jarred Evans, Cyfarwyddwr PDR, pan glywodd y newyddion, “Mae ychwanegu gwobr ddylunio ryngwladol bwysig arall at ein casgliad yn arwydd o gysondeb ein gwaith, oherwydd rydym yn cael ein cydnabod yn gyson ar lefel fyd-eang. Rydw i’n falch dros ben o’r tîm sydd gennym yn PDR ac rydw i wrth fy modd o gael y gydnabyddiaeth hon am Layr.”
Mae ychwanegu gwobr ddylunio ryngwladol bwysig arall at ein casgliad yn arwydd o gysondeb ein gwaith, oherwydd rydym yn cael ein cydnabod yn gyson ar lefel fyd-eang.
JARRED EVANS | RHEOLWR GYFARWYDDWR | PDR
YNGLŶN Â GWOBR DDYLUNIO IF
Ers 65 mlynedd, mae GWOBR DDYLUNIO iF wedi cael ei chydnabod fel arwydd o ansawdd ar gyfer dylunio neilltuol. Mae label iF yn enwog drwy’r byd am wasanaethau dylunio eithriadol, ac mae GWOBR DDYLUNIO iF ymhlith y gwobrau dylunio pwysicaf yn y byd. Cynigir gwobrau yn y disgyblaethau canlynol: Cynnyrch, Deunydd Pacio, Cyfathrebu a Dylunio Gwasanaethau/UX, Pensaernïaeth a Phensaernïaeth Fewnol, a hefyd Cysyniad Proffesiynol. Caiff yr holl gynigion buddugol eu cynnwys yn yr iF WORLD DESIGN GUIDE.