Mae wedi cyrraedd! Dadbacio ein Gwobr Aur iF 2020
RYDYM YN FALCH IAWN O GYHOEDDI BOD PDR WEDI ENNILL GWOBR AUR IF 2020!
Mae’r wobr yn cydnabod ein prosiect brês ar y cyd ag R&D Surgical.
Gwyliwch ein Cyfarwyddwr, Jarred Evans, a’r tîm wrth iddynt ddadbacio’r wobr am y tro cyntaf...
Mae Brace yn defnyddio deunyddiau a mecanweithiau cyfoes i greu datrysiad mwy cyfforddus ac anamlwg, ac effeithiol yn glinigol, ar gyfer y cyflwr pectus carinatum, sydd hefyd yn cael ei alw’n frest gul.
Mewn datganiad am y prosiect, dywedodd Gwobrau Aur iF: "Mae’r bresau meddygol hyn ar gyfer pectus carinatum, sy’n ddisylw ac yn gain, yn diweddaru cynnyrch cymhleth drwy ddefnydd arloesol a newydd o ddeunyddiau a manylion. Mae’r bresau meddygol hyn wedi’u creu yn arbennig ar gyfer defnyddwyr yn eu harddegau, ac maent wedi’u dylunio’n dda i leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â bresau traddodiadol."
Diolch i R&D Surgical am eu cydweithrediad ar y prosiect hwn!
Darllenwch fwy am yr iF World Design Guide.