Cyflwyno’r Nyfasi Deluxe Detangler, y grib arloesol ar gyfer gwallt Affro
Yn gyffrous iawn, cafodd un o gynhyrchion diweddar ein prosiectau datblygu cynnyrch - sef y Nyfasi Deluxe Detangler - ei lansio’n ffurfiol. Bu Dominik Bibi, Cynllunydd Diwydiannol Iau y prosiect, yn egluro'n fwy manwl.…
“Mae Nyfasi Deluxe Detangler yn frwsh sy’n datglymu’r gwallt felly'n galluogi i bobl â gwallt Affro i gyflyru a chribo eu gwallt yn hawdd. Yn ei hanfod, mae’n gynnyrch a gynlluniwyd gan gynllunydd du ar gyfer cymunedau du ac un o’i ddibenion allweddol ydy gadael i wallt naturiol fod yn fwy rhydd ac i gael ei ddathlu,” fel mae Dominik yn egluro.
Mae’r datglymwr yn gweithio drwy fwydo’r gwallt gyda chyflyrydd wrth i chi ei dynnu o'r gwreiddyn i fyny. Mae’r cyflyrwr yn cael ei daenu’n wastad dros y gwallt i helpu i ddatglymu’r gwallt wrth i chi fynd, ac felly’n cynhyrchu gwallt meddal a llyfn yn ei sgil. Yn ogystal â'i fod yn ddefnyddiol, mae hefyd yn gynnyrch gwleidyddol; mae’n cael ei lansio ar adeg arwyddocaol mewn hanes.
“Mae cefndir hanesyddol aruthrol i’r prosiect hwn – mae pobl â gwallt Affro yn aml yn dioddef stigma a diffyg dealltwriaeth am eu gwallt naturiol, ond yn ystod y blynyddoedd diweddar, gwelwyd yn gynyddol eu bod yn falch o harddwch eu gwallt. I ni, mae’r prosiect hwn yn berthnasol iawn i hynny.”
Mae’n gynnyrch a gynlluniwyd gan gynllunydd du ar gyfer cymunedau du ac un o’i ddibenion allweddol ydy gadael i wallt naturiol fod yn fwy rhydd ac i gael ei ddathlu.
Dominik Bini | CYNLLUNYDD DIWYDIANNOL IAU | PDR
Fe weithion ni’n agos gyda chrëwr Nyfasi i ddatblygu’r brws. “Yr hyn oedd yn hyfryd am ddatblygu’r prosiect hwn oedd cyd-greu gyda Youmna [y dyfeisydd]. Roedd ganddi syniad cadarn o’r hyn roedd hi eisiau a phrototeip, felly roedd yn ystyried sut gallai PDR ei helpu i ddatblygu’r cynllun hyd yn oed ymhellach.”
Wrth ddisgrifio hanes gwireddu'r prosiect, dywedodd, Dominik : “Rydyn ni’n byw mewn byd lle rydyn ni’n creu cynnyrch newydd yn gyson a phob blwyddyn gwelir ffonau newydd, technoleg newydd a chynhyrchion newydd yn dod ar y farchnad. Felly, pan fydd cynnyrch newydd yn ymddangos, sydd wedi cael ei gynllunio gan gymuned ar gyfer cymuned, gyda stori gadarn ynghlwm â hi... Wel rydych chi’n gwybod bod gan y cynnyrch botensial mewn marchnad go wir. I ni, mae mor bwysig fod wedi gwneud rhywbeth a allai effeithio’n bositif ar y bobl y cynlluniwyd y cynnyrch iddyn nhw.”
Rydyn ni wrth ein bodd i weld y cynnyrch yn cael ei lansio i’r byd a bu’n fraint i gael gweithio gyda Youmna ar y ddyfais anhygoel hon – i gael gwybod rhagor , darllenwch ein hastudiaeth achos.
Y camau nesaf
Dewch i ddarganfod prosiectau diweddaraf PDR, neu i drafod syniad newydd, cysylltwch â ni.