Greenhouse Ebrill 2018
Greenhouse yw hyfforddiant 'torchi llewys' PDR mewn dylunio gwasanaethau a dylunio polisi. Ar gyfer mis Ebrill, cawsom gyfranogwyr o CThEM, Northern Ireland Innovation Lab, Valletta Design Cluster, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, Cisco, Ambiwlans Sant Ioan, Faculty of Design Prifysgol Primorska, Slovenia, yr Adran Addysg, y sector elusennau, a'r Future Cities Catapult. Er mwyn i'r grwpiau ddefnyddio'r offer a'r technegau mewn sefyllfa ymarferol, fe wnaeth yr Hwb Gwyddorau Bywyd gynnig her inni weithio arni.
Wedi'i sefydlu yn 2014, mae'r Hwb yn gorff hyd braich Llywodraeth Cymru gyda swyddfeydd modern mewn lleoliad gwych ym Mae Caerdydd. Mandad gwreiddiol yr Hwb oedd cefnogi busnesau yn y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru, ond mae wedi'i ailbwrpasu'n ddiweddar.
Fel rhan o ffocws newydd ar ddatblygu cyfleoedd i greu gwerth o ymgysylltu rhwng y GIG a diwydiant, a chysylltu'r holl randdeiliaid yn y sector gwyddorau bywyd â'r GIG, yr her a osodwyd ar gyfer Greenhouse oedd:
SUT GALLWN NI YMGYSYLLTU'N EFFEITHIOL Â DEFNYDDWYR? BETH YW TAITH Y DEFNYDDIWR? BETH YW'R CYNNIG?
Yng nghyd-destun yr her hon, treuliodd y cyfranogwyr ddau ddiwrnod a hanner yn archwilio cyfres o ddulliau dylunio gwasanaethau a dylunio polisi gan gynnwys Diffinio Problemau, Mapio Rhanddeiliaid, Mapio Polisi, Fframwaith Ymchwil Defnyddwyr, Lawrlwytho Syniadau, Mapio Teithiau Defnyddwyr, Syniadau, Bwrdd Stori a Phrototeip Papur.
SAFBWYNTIAU DEFNYDDWYR
Roedd y grwpiau'n gallu cynnal ymchwil defnyddwyr a rhoi'r Fframwaith Ymchwil Defnyddwyr ar waith drwy gyfweld â staff yn yr Hwb, busnesau bach ac arbenigwyr datblygu ceisiadau. Yn seiliedig ar yr ymarfer hwn, nododd y timau gyfres o safbwyntiau defnyddwyr trawiadol.
MAPIO TEITHIAU DEFNYDDWYR
Un ymarfer allweddol a oedd yn hynod berthnasol yn y broses hon oedd mapio teithiau defnyddwyr, gan nodi'r holl gamau lle mae busnesau bach yn ymgysylltu â'r Hwb - o'r tro cyntaf iddyn nhw glywed amdano i wneud cais i fframwaith caffael y GIG. Roedd yn gyfle i'r cyfranogwyr nodi'r pwyntiau pwysau yn y broses ymgysylltu bresennol a nodi cyfleoedd i wella ymhellach.
SYNIADAU
Ar ôl rhoi cynnig ar ymchwil defnyddwyr, mapio teithiau defnyddwyr a chadarnhau eu safbwyntiau, trodd y grwpiau at gynhyrchu syniadau. Buom yn tywys y grwpiau drwy gyfres o wahanol dechnegau creu syniadau ac roeddent yn gallu canolbwyntio ar y syniadau a'u hysbrydolodd fwyaf. Bu tîm 'Procurement Light' yn archwilio sut y gallai'r Hwb ychwanegu gwerth i gwmnïau bach sy'n awyddus i fod yn rhan o fframwaith caffael y GIG drwy sefydlu swyddogaeth bwrpasol o fewn yr Hwb. Cynigiodd y grŵp 'Matchmaking' ap ar ffurf un paru cariadon gan ddefnyddio algorithm i baru busnesau bach â staff y GIG. Cynigiodd tîm 'Focus' broses gam wrth gam yn dilyn methodoleg ddylunio a oedd yn canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr (busnesau bach/y GIG) yn hytrach na rhanddeiliaid (Llywodraeth Cymru/cyllidwyr).
ADBORTH GAN YR HWB GWYDDORAU BYWYD
Roedd yr Hwb yn hynod falch gyda syniadau'r grwpiau. Yn benodol, roedd y syniadau a gasglwyd yn cyd-fynd â'r arsylwadau a nodwyd eisoes. Roeddent yn cydnabod yr angen i ganolbwyntio ar nifer fach o gynigion gwasanaeth ac ymgysylltu'n fwy effeithiol er mwyn helpu busnesau bach a chanolig i gyrraedd copa 'Mynydd Caffael'. I bob pwrpas, roedd y grwpiau wedi dylunio dull ymgysylltu sy'n canolbwyntio mwy ar ddefnyddwyr, ac mae'r Hwb Gwyddorau Bywyd bellach yn ystyried a allai dull dylunio fod yn effeithiol er mwyn deall gwir anghenion busnesau bach a staff y GIG.
Darllenwch fyfyrdodau ar Greenhouse gan un o'r cyfranogwyr: https://brilliantminds.blog/2018/05/02/three-things-ive-learned-about-design/
I ddysgu mwy am Greenhouse neu ymuno â ni yn y sesiwn nesaf, e-bostiwch Piotr ar pswiatek@pdronline.co.uk.