Archwilio'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth rhwng PDR a V-Trak
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod PDR a V-Trak wedi dod ynghyd yn ddiweddar drwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth. Dechreuodd y prosiect ar ddiwedd 2022 gyda'r nod o greu strategaethau dylunio pwrpasol sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr a gwella dulliau dylunio a gweithgynhyrchu ar gyfer cynhyrchion V-Trak.
Fe wnaethom dreulio amser gyda'r Athro Dominic Eggbeer o PDR i ddysgu mwy am y bartneriaeth a'r hyn y mae'n ei olygu.
Ynglŷn â V-Trak a'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth
MaeV-Trak yn gwmni cadeiriau olwyn a seddi arloesol sy'n ceisio ychwanegu cysur ac annibyniaeth i fywyd defnyddwyr cadeiriau olwyn o'u plentyndod hyd at fod yn oedolion.
Ariennir y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth am ddwy flynedd drwy gynllun Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth UKRI a dyma a ddywed Dominic "Y realiti, fodd bynnag, yw y bydd y bartneriaeth hon yn cefnogi galluoedd newydd a radical ar gyfer datblygu cynhyrchion ac yn creu platfform a fydd yn ymestyn y tu hwnt i'r cyfnod o ddwy flynedd a ariennir.”
Mae'r cynllun hwn yn creu partneriaeth tair ffordd rhwng cwmni yn y DU, sefydliad academaidd a pherson graddedig cymwys, yn yr achos hwn – V-Trak, PDR a William Dauncey sy'n ymuno fel Cydymaith KTP ar y prosiect hwn.
Manteision y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth a'r hyn sydd gan PDR i'w gynnig
Mae'r tri phartner yn cael budd o'r bartneriaeth, gyda'r Cydymaith Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth yn cael cefnogaeth a datblygiad gyrfa lefel uchel, y cwmni'n cael budd o'r wybodaeth newydd, a'r partner academaidd yn cael budd o'r allbynnau ymchwil a'r effaith.
Pan ofynnwyd i Dominic am yr hyn sydd gan PDR i'w gynnig, dywed Dominic, "Mae PDR wedi bod yn arweinydd ym maes arloesedd dylunio ers 1994. Mae ein sefydliad yn cynnig arbenigedd mewn meysydd dylunio amrywiol ac wedi cydweithio â llawer o gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae fy ngrŵp yn PDR yn canolbwyntio ar ddylunio sy'n rhoi ffocws ar ddefnyddwyr a dylunio gofal iechyd, rydyn ni'n cydweithio ag arbenigwyr meddygol yn y GIG a thu hwnt i greu dyluniadau sy'n cydymffurfio'n rheoleiddiol ac a wnaed gan ddefnyddio dulliau gweithgynhyrchu ar raddfa isel. Byddwn ni'n manteisio ar yr arbenigedd hwn i gefnogi V-Trak.
Ochr yn ochr â hyn, rydyn ni yma i roi cymorth rheolaidd i Will, ein Cydymaith Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, drwy gyfarfodydd a thrwy ei gyflwyno i arbenigwyr eraill ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a PDR yn ehangach hefyd. Bydd hyn yn ei helpu i ddeall y dulliau y maen nhw'n eu defnyddio a gweld a oes unrhyw beth y gall ei roi ar waith yn V-Trak. Rydyn ni yma i'w gynorthwyo hefyd i ysgrifennu dyluniadau astudio arbrofol ac i arwain y gwaith o lunio papurau academaidd a chyflwyniadau cynhadledd. Mae'r cyfan yn cyd-fynd â gwir hanfod Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth. Mae'n ymwneud â datblygu'r math o drylwyredd academaidd a geir y tu ôl i'r gwaith y mae'n ei arwain o ddydd i ddydd.”
Y prosiect hyd yn hyn
“Ymunodd William Dauncey â PDR a V-Trak fel Dylunydd Cynhyrchion a'n Cydymaith Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ac mae'n gyfrifol am arwain gwaith rheoli'r prosiect. Mae'n rhan annatod o dîm V-Trak. Mae'n rhan sylfaenol o ddiwylliant y cwmni, ac yn deall anghenion y cwsmer a'r gweithrediadau mewnol sy'n diwallu'r anghenion hynny", eglura Dominic.
Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar egwyddor graidd V-Trak o empathi cynhyrchiol ac mae'n golygu bod Will yn mynychu sesiynau rheoli osgo a ffitio ar gyfer cadeiriau olwyn gydag arbenigwyr clinigol, gan gydweithio hefyd ar yr agweddau dylunio technegol a gweithgynhyrchu. Mae'n sicrhau ei fod yn gwybod am y datblygiadau diweddaraf yn y maes drwy fynychu cynadleddau a sioeau masnach, cydweithredu â thimau prosiect eraill, a chynnal astudiaethau arbrofol. Mae rôl Will yn cynnwys gweithio yn V-Trak a sicrhau bod y cynhyrchion yn bodloni safonau rhyngwladol drwy ddatblygu rigiau profi mecanyddol.
Nod y bartneriaeth hon yn y pen draw yw gweledigaeth a rennir gan V-Trak a PDR er mwyn darparu profiadau gwell i gwsmeriaid mewn ffordd fwy effeithlon, gyda'r defnyddiwr bob amser yn flaenllaw. Ychwanega Dominic, "Mae'n cyd-fynd i raddau helaeth â'n hymrwymiadau yn PDR i greu rhaglenni datblygu ymchwil ac addysg sy'n grymuso pobl i ddefnyddio dylunio a thechnoleg i fynd i'r afael â blaenoriaethau sy'n berthnasol yn fyd-eang. Felly yr hyn rydyn ni'n ceisio ei gyflawni yma yw cynaliadwyedd. Rydyn ni am weld busnes llwyddiannus yn lansio cynhyrchion newydd a gwneud defnydd effeithlon o dechnolegau newydd i gefnogi eu huchelgeisiau tymor hir ac i atgyfnerthu hynny, rydyn ni am gynhyrchu allbynnau ymchwil effeithiol iawn o ansawdd uchel hefyd. Hoffem ni gefnogi ein huchelgeisiau tymor hir ar gyfer creu newid drwy ddefnyddio dylunio.”
This partnership will support radical new product development capabilities and create a platform that will extend way beyond the funded two-year period.
Dominic Eggbeer | ATHRO CYMWYSIADAU DYLUNIO GOFAL IECHYD | PDR
Rydyn ni'n gyffrous i gefnogi datblygiadau uchelgeisiol sy'n arwain at effaith gadarnhaol i'r Cydymaith, V-Trak a'u cwsmeriaid.
Camau Nesaf
Cewch ddysgu mwy am brofiad PDR gyda Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth neu os oes gennych syniad yr hoffech ei drafod, cysylltwch â ni