Rhan Dr Katie Beverly yn Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024
Mae Hotspot Economi Gylchol Ewrop yn ddigwyddiad blynyddol a gynhaliwyd gyntaf yn yr Iseldiroedd yn 2016. Ers hynny fe'i cynhaliwyd mewn lleoliad gwahanol bob blwyddyn, gyda phob rhanbarth sy’n cynnal yn cael ei ddewis am ddangos arfer gorau ac arloesedd rhyngwladol wrth ddatblygu economi gylchol. Eleni mae Cymru wedi cael ei chydnabod am ei chynnydd yn y maes drwy gynnal y digwyddiad fel Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024.
Yn ôl y wefan:
“Mae Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024 yn gyfle i ddysgu sut yn union y mae Cymru wedi rhoi llesiant cenedlaethau’r dyfodol wrth galon a chraidd penderfyniadau a’r modd rydym wedi dechrau pontio oddi wrth gymdeithas sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio a gwaredu tuag at gymdeithas fwy cylchol a chynaliadwy.”
Mae'r digwyddiad yn rhoi cyfle i bwysleisio cyflawniad Cymru o lwyddiannau nodedig, gan gynnwys cael eu cydnabod fel yr ail orau yn y byd am ailgylchu. Mae hefyd yn anelu at alluogi gosod nodau newydd sy'n cyd-fynd ag uchelgais Cymru i ddatgarboneiddio a dod yn genedl sero-net a diwastraff erbyn 2050.
Dydd Llun 7th October
Mae ein harbenigwr preswyl ar Eco-ddylunio Dr Katie Beverley, ymhlith y siaradwyr a'r panelwyr arbenigol sydd i'w gweld drwy gydol y digwyddiad. Ddydd Llun 7fed am 2:30yp, bydd Katie yn rhan o'r drafodaeth 'Ymunwch â'r Economi Gylchol Ryngwladol', yn Tiny Rebel, Heol y Porth, Caerdydd. Mae hon yn drafodaeth ar arferion economi gynaliadwy a chylchol o fusnes De Cymru yn ogystal â chyfle rhwydweithio i rannu arfer gorau ac arloesedd
Dydd Mawrth 8th October
Ddydd Mawrth 8fed am 2yp, bydd Katie yn cadeirio panel yn y brif gynhadledd yn y Ganolfan Griced Genedlaethol, Gerddi Sophia. Bydd Dr Kersty Hobson, Dr Nadine Leder a Max Green yn ymuno â Katie i drafod y cynnydd tuag at gyflawni economïau cylchol.
Cliciwch yma i gael gwybod am y rhestr lawn o weithgareddau sy’n digwydd fel rhan o Hotspot Economi Gylchol Cymru 2024.
Darganfyddwch fwy am ein gwaith o fewn Dylunio Cynaliadwy