Dewch i gwrdd â’n Intern Dylunio newydd, Olivia Goonatillake
Mae’n bleser gennym gyflwyno ein recriwt newydd, Olivia Goonatillake, sy’n ymuno â’r tîm PDR fel Intern Dylunio. Daw Olivia yn wreiddiol o Awstralia ond cwblhaodd radd Meistr ym Mhrifysgol Caeredin lle mae wedi’i lleoli ar hyn o bryd ac mae bellach yn ymgymryd ag interniaeth 6 mis yn PDR.
Er mwyn deall yn well beth mae’r rôl hon yn ei olygu ac i ddod i adnabod Olivia, fe wnaethom ofyn ychydig o gwestiynau iddi.
Beth wnaeth apelio atoch ynglŷn â gweithio yn PDR? “Pan oeddwn yn edrych ar PDR, sylwais fod ganddo ddull dylunio penodol, sy’n cyfuno estheteg yn ddi-dor ag amrywiol ddulliau system ddylunio eraill. Yr hyn sy’n gosod y tîm PDR ar wahân yw eu gallu i weithredu ar y croestoriad rhwng polisi a dylunio, a oedd yn ddiddorol iawn i mi oherwydd nid oeddwn wedi gweld llawer o hynny mewn sefydliadau eraill yn y DU.”
Wrth ofyn sut olwg sydd ar ei diwrnod yn PDR, dywedodd Olivia, “Mae fy niwrnod 9 I 5 presennol yn eithaf deinamig gan fy mod yn gweithio’n agos gyda’r tîm Polisi Dylunio, gan gefnogi Anna Whicher a Piotr Swiatek yn bennaf. Mae fy moreau fel arfer yn cynnwys cyfarfodydd, ac rwy’n treulio gweddill fy amser yn creu graffeg ar gyfer eu cyflwyniadau. Yn ogystal â hyn, rwy’n cynnal adolygiadau llenyddiaeth, ymchwil gefndirol drylwyr ac yn cyflawni tasgau trefniadol a gweinyddol amrywiol. Rwyf hefyd yn gweithio ar greu pecyn cynefino ar gyfer interniaid y dyfodol!”
Er mai dim ond am ychydig wythnosau y bu gyda ni, mae Olivia eisoes yn cefnogi’r tîm Polisi Dylunio ar rai prosiectau arwyddocaol. “Rwyf wedi bod yn rhan o brosiect cynllun gweithredu dylunio dinas gydag Anna, y mae hi yn ei gyflwyno yn Awstralia. Rwyf hefyd wedi bod yn cynorthwyo Piotr ac Anna mewn astudiaeth o arloesi yn y sector cyhoeddus yn Latfia drwy ddarparu mewnbwn angenrheidiol a’u helpu gydag agweddau penodol ar y prosiect.”
Mae Olivia yn dweud mwy am y tîm a’r diwylliant gwaith: “Mae pawb wedi bod yn gyfeillgar iawn, mae llawer o bobl wedi bod yn anfon negeseuon ataf i ddweud helo a chynnig help llaw. Mae’r tîm wedi bod yn hynod garedig a chroesawgar.”
Buom yn holi Olivia am ei phenwythnos delfrydol ac a oedd ganddi unrhyw ddoniau cudd. “Byddai fy mhenwythnos delfrydol yn cynnwys mynd allan i’r Pentlands neu’r Cairngorms yn yr Alban gyda ffrindiau ac efallai nofio dŵr oer. Rwyf hefyd yn mwynhau darllen llyfrau gyda rhywfaint o goffi a choginio swper gyda ffrindiau.”
O ran doniau…”Rwy’n chwarae’r sacsoffon ac ar hyn o bryd rwy’n dysgu sut i sgwba-ddeifio. Rwy’n mwynhau cymryd rhan mewn darluniau byw graddfa fawr ar y penwythnosau hefyd.” Mae penwythnos a sgiliau Olivia yn swnio fel y cydbwysedd delfrydol rhwng gwaith a chwarae!
Mae tîm PDR yn Estyn croeso cynnes i Olivia. Rydym wrth ein bodd ei chael hi yma.
Dysgwch mwy am sut brofiad yw gweithio yn PDR, neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.