Archwilio rôl dylunio o fewn ymchwil ryngddisgyblaethol
Ni all dylunio ddatrys ein holl broblemau ar ei ben ei hun – rhaid i ddealltwriaeth fanwl o broblem, a’r hyn sydd angen ei newid i’w wella, fod yn sail iddo. Dim ond trwy ymchwil a chydweithredu ag arbenigwyr ar draws meysydd lluosog y gellir cael y mewnwelediad hwn.
Dyna’r egwyddor sy’n sail i gysyniad ymchwil ryngddisgyblaethol, term sy’n gynyddol boblogaidd yn y byd dylunio.
I PDR, mae ymchwil ryngddisgyblaethol wrth galon pob prosiect. Mae Andrew Walters, Cyfarwyddwr Ymchwil PDR, yn trafod y broses a sut y mae o fudd i’r defnyddiwr terfynol.
BETH YW YMCHWIL RYNGDDISGYBLAETHOL?
Fel yr awgrymir gan yr enw, mae ymchwil ryngddisgyblaethol yn ymwneud â chyfuno ymchwil o ffynonellau gwahanol. Gallai sefydliadau academaidd, busnesau a darpar ddefnyddwyr cynnyrch i gyd gyfrannu at brosiect ymchwil, er nid yw hyn yn rhestr gynhwysfawr.
“O ran dylunio, gall ymchwil ryngddisgyblaethol helpu i sicrhau y gosodir prosiect yn ei gyd-destun priodol,” eglura Andrew.
"Gall ystyried profiadau defnyddwyr terfynol, dichonoldeb y farchnad a phrosiectau hanesyddol tebyg, er enghraifft, sicrhau fod y broses ddylunio’n seiliedig ar fewnwelediad dilys yn hytrach na dyfaliad.
Adwaenir ymchwil ryngddisgyblaethol yn ôl sawl term, gan gynnwys ymchwil trawsddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol.
“Beth bynnag y galwn ef,” medd Andrew, “mae’n ymwneud â chydnabod meysydd arbenigedd gwahanol, dod o hyd i ffyrdd o’u cyfuno a chydweithredu, a dod o hyd i atebion i broblemau mawr yw’r pwrpas yn y pen draw.”
Mae’n ymwneud â chydnabod meysydd arbenigedd gwahanol, dod o hyd i ffyrdd o’u cyfuno a chydweithredu, a dod o hyd i atebion i broblemau mawr yw’r pwrpas yn y pen draw.
Andrew Walter | CYFARWYDDWR YMCHWIL | PDR
SUT MAE YMCHWIL RYNGDDISGYBLAETHOL O FUDD I GLEIENTIAID?
Mae ymchwil ryngddisgyblaethol yn helpu dylunwyr i ddatgloi anghenion y defnyddwyr terfynol drwy, ac efallai’n fwy penodol, y ffyrdd posibl o gwrdd â’r anghenion hynny, trwy ymgynghori ag arbenigwyr mewn meysydd gwahanol.
Dadla Andrew fod y lefel hynny o ddealltwriaeth yn hanfodol ar gyfer prosiectau dylunio effeithiol. “Yn syml iawn, mae angen ymchwil ryngddisgyblaethol arnom oherwydd mae’n ein helpu ni i gynhyrchu cynhyrchion, gwasanaethau, cynlluniau busnes, ac ati, gwell.
“Mae’r broses yn gadael inni ddatrys problem er budd y defnyddiwr terfynol. Mae hynny yn ei dro’n gwneud y cynnyrch yn werthadwy ar gyfer y cleient.”
SUT MAE PDR YN CYFUNO YMCHWIL RYNGDDISGYBLAETHOL Â DYLUNIO?
Mae ymchwil ryngddisgyblaethol a’r broses ddylunio’n cyfrannu at ei gilydd, gan effeithio ar ganlyniadau ymchwil a’r cynnyrch neu’r gwasanaeth terfynol ill dau.
“Un enghraifft a ddaw i’r meddwl yw gwaith Dr. Katie Beverley ar brosiect Horizon 2020, Prestige,” noda Andrew.
“Edrychodd y prosiect ar sut gall deunyddiau clyfar wella cynhyrchion. Nid tasg ddylunio technegol oedd hon yn unig, ond tasg a oedd yn cynnwys gofyn cwestiynau megis ‘sut ydyn ni’n dylunio modelau busnes cynaliadwy?’ a, ‘sut mae hyn o fudd i’r defnyddiwr?’”
Amlyga Andrew waith PDR mewn dylunio meddygol hefyd: “Rydym yn canolbwyntio ar ddylunio dulliau newydd a fydd yn cael effaith ar iechyd a lles pobl. Rydym yn bwriadu ail-ddylunio’r rhyngweithio rhwng pawb yn y gadwyn feddygol, o ddoctoriaid i nyrsys i dechnegwyr ac, wrth gwrs, y cleifion eu hunain.”
Defnyddia PDR ddylunio ac ymchwil i ystyried profiad dynol defnyddwyr go iawn, o ddydd i ddydd. Dyma un ffordd y mae ymchwil ryngddisgyblaethol yn helpu i ddod ag atebion ymarferol i broblemau go iawn.
Yn syml iawn, mae angen ymchwil ryngddisgyblaethol arnom oherwydd mae’n ein helpu ni i gynhyrchu cynhyrchion, gwasanaethau, cynlluniau busnes, ac ati, gwell.
Andrew Walters | CYFARWYDDWR YMCHWIL | PDR
BETH YW’R BROSES?
Proses o brofi a methu yw’r broses ddylunio. Mae ymchwil ryngddisgyblaethol yn gwneud hyn yn haws.
Eglura Andrew: “Mae’n ymwneud â rhagweld sut olwg a swyddogaeth a allai fod gan gynhyrchion y dyfodol, profi hynny a gweld os ydyw wir yn gwella problem.”
“Rydym yn cwestiynu ein rhagdybiaethau am sut mae pethau’n gweithio – a sut y dylent weithio – gan ystyried anghenion cleientiaid a defnyddwyr. Yna, rydym yn eu profi i gael eglurder. Rydym yn parhau â’r broses hon ac yn parhau i wella nes bod gennym gynnyrch gorffenedig, gwerthadwy sy’n wirioneddol ddefnyddiol i’r person a fydd yn ei ddefnyddio.”
SYNIADAU OLAF
Mae’r gymuned ryngwladol yn profi heriau cymhleth megis Covid-19 a newid hinsawdd. Yn y cyd-destun hwn, mae’r angen am ymchwil ryngddisgyblaethol yn amlycach nag erioed.
“Mae pobl yn dechrau sylweddoli bod dylunio’n broses sy’n angenrheidiol er mwyn gwneud penderfyniadau gwell a mynd i’r afael â phroblemau’r byd,” esbonia Andrew. “Mae ymchwil ryngddisgyblaethol ar i fyny, ac felly hefyd rôl dylunio.”
CAMAU NESAF
Eisiau dysgu rhagor am waith PDR? Cymrwch olwg ar ein hastudiaethau achos diweddar, neu cysylltwch i drafod eich prosiect nesaf.