Dyddiaduron Dylunio: Taith Cat i ddod yn uwch ddylunydd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn PDR
O rolau dylunio mewnol i Uwch Ddylunydd sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr yn PDR, rydym yn eistedd i lawr gyda Cat Taylor-Ferris i archwilio ei thaith gyrfa hyd yn hyn.
Gadewch i ni ddechrau o'r dechrau ...
Gan ddechrau gyda’i hastudiaethau israddedig mewn BA Dylunio Cynnyrch ym Met Caerdydd yn 2010, daeth angerdd Cat tuag at Ddulunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i’r amlwg, a’i gryfhau yn ystod ei lleoliad tri mis yn PDR fel rhan o’r cwrs Meistr Dylunio Cynnyrch Uwch.
“Cefais friff a oedd yn arbenigo mewn dulliau dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr gan mai dyna’r math o waith dylunio yr oedd gennyf ddiddordeb ynddo yn y Brifysgol. Fe wnaeth y profiad o fod mewn amgylchedd ymgynghorol ac ymchwil wneud i mi sylweddoli mai dyna’r math o le roeddwn i eisiau gweithio ynddo.”
Ar ôl cwblhau ei meistri, aeth Cat ymlaen i ran masnachol y diwydiant dylunio, gan nodi, “Ar ôl fy ngradd meistr symudais allan o'r ardal a threuliais tua chwe mis yn ceisio sicrhau swydd ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr dros swyddi yn ymwneud ag ymchwil i'r farchnad.”
Yn fuan wedyn, ymunodd Cat â chwmni cynhyrchion anifeiliaid anwes lle cafodd brofiad amrywiol fel rhan o'r tîm peirianneg a oedd yn trin popeth o ddylunio mecanyddol a dylunio cynnyrch i ddatblygu electroneg a datblygu meddalwedd. Er gwaethaf gweithio fel Peiriannydd Prosiect i ddechrau, arweiniodd diddordeb Cat mewn dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr at ddod yn beiriannydd defnyddioldeb cyntaf y cwmni, lle bu’n pwysleisio pwysigrwydd ystyried defnyddioldeb wrth ddatblygu cynnyrch a sut y byddai o fudd i'r cwmni yr oedd yn gweithio iddo ar y pryd.
“Dyma pan ddechreuais i arbenigo yn fy ngyrfa gyntaf ac mi feddyliais, ie – dyma beth rydw i bendant eisiau ei wneud.”
Cymerodd taith Cat dro pan benderfynodd ei bod eisiau profiad mewn rôl â mwy o ffocws iddi ar y broses ddylunio.
“Doeddwn i ddim yn cael gwneud llawer o’r ymchwil i helpu i bennu cyfeiriad prosiectau ac roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau mwy o brofiad yn y maes hwnnw, felly dyna pryd symudais yn ôl i Gaerdydd ac yn ffodus iawn, fe gefais swydd yn PDR fel arbenigwr dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr!”
Ar ôl pum mis , ehangodd rôl Cat i fod yn Uwch Ddylunydd sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr, gan ganiatáu iddi reoli prosiectau sylweddol, cynnal ymchwil, a chael profiad o brosiectau dylunio gwasanaethau.
Pan ofynnwyd iddi am y newid o rôl ddylunio fewnol i rôl ar lefel ymgynghori, dywedodd Cat, “Mae llinellau amser mewnol yn tueddu i fod yn hirach, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu prosiect o'r dechrau i'r diwedd. Mewn cyferbyniad, yn PDR rydym yn aml yn ymgysylltu ar gamau penodol o brosiectau, gyda mwy nag un prosiect ar yr un pryd; cynnal ymchwil, creu cysyniadau a/neu gynnal profion cyn eu trosglwyddo'n ôl i gleientiaid i'w gweithredu.
“Roedd y trawsnewid yn eithaf di-dor! Rwy’n hoffi bod pob prosiect unigol yn wahanol ac mae bod yn ddylunydd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr yn golguu eich bod yn datblygu arbenigedd mewn llawer o bynciau gwahanol.”
Gan fyfyrio ar ei thaith gyrfa hyd yn hyn, mae Cat yn cynghori darpar ddylunwyr i ganolbwyntio ar eu gwir angerdd. “Ni oeddwn i’n deall CAD yn llwyr yn y Brifysgol, ond hyd yn oed pe bawn wedi gwella arno, byddai fy nghalon wedi bod ar yr ymchwil, defnyddioldeb a gweithgareddau dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
“Peth arall fyddai cadw llygad am y math o swydd rydych chi wir ei heisiau. Bu bron i mi gymryd swydd ymchwil marchnad a fyddai wedi bod yn ddiddorol fwy na thebyg ond rwy’n falch iawn fy mod wedi dal allan am y swydd ddylunio a arweiniodd fi i ble rydw i nawr.”
Dysgwch fwy am sut brofiad ydyw gweithio yn PDR, neu i drafod syniad, cysylltwch â ni.