Heriau Economi Gylchol yn y Byd Go Iawn
Yn ein fideo diweddaraf, mae Dr. Katie Beverley – Uwch Swyddog Ymchwil ac arbenigwr ar bopeth ‘cynaliadwy’ ac ‘ecoddylunio’ – yn sôn am heriau gweithredu economi gylchol lwyddiannus; ond hefyd am sut y gellir goresgyn yr heriau hynny.
Mae Katie’n trafod pam nad yw ein diwylliant cyfleustra’n rhwystr i feddwl cylchol mewn gwirionedd, a pha ddulliau newydd all ddisodli’r darfodiad bwriadus gwrthrychau corfforol yr ydym wedi dod i’w ddisgwyl.
Ac o ran gweithredu’r ffordd newydd hon o wneud pethau, mae Katie’n trafod sut y gallem reoli graddfa’r newid sy’n angenrheidiol i wneud hynny – ond gyda straeon llwyddiannus a newid gêr o ran sut y mae rhai diwydiannau’n gweithredu, mae’r newidiadau hyn ar waith yn barod.
Gwyliwch y fideo i archwilio ymhellach i’r pwnc, ac ewch i gael golwg ar ein prosiectau Yr Alban Ddiwastraff, Shield ac Airora am enghreifftiau o feddwl economi gylchol ar waith.