Circular Design School 2021
Bydd PDR, mewn partneriaeth â’r PPV Knowledge Networks, yn cynnal yr Ysgol Dylunio Cylchol, digwyddiad ar-lein a gaiff ei gynnal rhwng Medi 21ain a Hydref 8fed. Wedi’i anelu at fyfyrwyr a dylunwyr o’r DU a’r Wcráin, bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r economi gylchol wrth ddylunio cynhyrchion a gwasanaethau.
Wedi’i rhannu i 6 modiwl dwy awr o hyd, a gaiff eu gwasgaru ar hyd y 3 wythnos, gall cyfranogwyr ddisgwyl dysgu am ystyr yr economi gylchol a dylunio cylchol, gan ennill offer a fydd yn eu caniatáu nhw i weithredu’r modelau hyn yn eu prosiectau yn y dyfodol, a datblygu prototeipiau a fydd yn mynd i’r afael â phroblemau byd-eang cyfredol mewn timau. Bydd darlithwyr o’r Wcráin a’r DU, gan gynnwys Dr Katie Beverley a’r Athro Anna Whicher o PDR, yn cynnal y sesiynau dwy awr hyn, pob un yn rhannu eu harbenigedd ar y pwnc.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r cwrs rhad ac am ddim hwn, cofrestrwch yma cyn Medi 19eg.
CAMAU NESAF
Dysgwch am rai o’n prosiectau sy’n defnyddio’r economi gylchol, neu cysylltwch i drafod syniad.