Bywyd yn PDR: Rhifyn ymchwil
Shwmae, Dr. Katie Beverley ydw i, Uwch Swyddog Ymchwil yn PDR.
Mae yna dipyn o annibyniaeth pan fyddwch chi'n gweithio fel ymchwilydd yn PDR, ac fe gewch y cyfle i ymchwilio i'r pethau rydych chi wir yn becso amdanyn nhw, felly mae'n llawer o hwyl! Mae yma agwedd 'ewch i afael ynddo' at ymchwil. Os yw'r ymchwil yn gysylltiedig â'ch arbenigedd, â dylunio, ac mae'n ymddangos y bydd o werth i PDR, ewch ati. Mae'n ddiwylliant cefnogol iawn, ac mae pawb yn cyffroi am brosiectau newydd. Mae'n amgylchedd gwaith gwych!
Mae fy ngwaith dyddiol yn dibynnu ar a ydw i wedi ymgolli’n llwyr mewn prosiect - os felly, byddaf yn treulio llawer o amser yn darllen am faes y prosiect, yn cynllunio offerynnau ymchwil, eu defnyddio a dadansoddi'r allbynnau. Fe allai ymgymryd â’r ymchwil olygu unrhyw beth o'r hyn y mae pobl yn ei ystyried yn 'ymchwil glasurol', lle rwy'n cyfrifo tudalennau data ar effaith amgylcheddol, i gynnal gweithdai a chael hwyl gyda phobl mewn gofod creadigol.
Os nad ydw i'n gweithio ar brosiect byw, byddaf yn chwilio am gyfleoedd ariannu, yn ceisio meddwl am bartneriaid newydd, ac o bosibl yn meddwl am brosiectau newydd yr hoffwn eu gwneud. Neu os ydw i ar ddiwedd prosiect, byddaf yn ystyried sut i ysgrifennu papurau neu ddosbarthu'r canfyddiadau - oherwydd prif rôl yr ymchwilydd yw hybu'r wybodaeth yn ei ddisgyblaeth. Gallwn gwblhau llawer o ymchwil da iawn, ond os nad ydym yn cael pobl i glywed amdano, nid ydym yn llwyddo i fod yr ymchwilwyr y dylem fod!
Mae'r tîm ymchwil yn PDR yn eithaf bach, felly mae pawb yn cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil a masnachol. Pan fyddwn ni i mewn, rydyn ni i gyd yn rhannu swyddfa gyda'n gilydd, sy'n wych oherwydd gallwn daflu syniadau yn ôl ac ymlaen – a chyn pen dim, mae prosiectau'n tarddu. Ond p'un a ydym yn y swyddfa neu'n gweithio o bell, rydym i gyd yn dal i drafod ymysg ein gilydd.
Pan fyddwch chi’n gweithio ym maes ymchwil, mae angen ichi fod yn hunan-gymhellol. Efallai y byddwch yn gweithio gydag un neu ddau o ymchwilwyr eraill ond, yn eithaf aml, byddwch yn gweithio ar eich pen eich hun - felly mae'n rhaid ichi fod yn hyderus yn eich gwaith a'ch syniadau, ac ni allwch ofni methu! Weithiau bydd pethau'n mynd yn wael yn y pen draw, ac rydych chi'n dysgu cymaint o'r hyn sy'n mynd o'i le â'r hyn sy'n mynd yn iawn.
Ecoddylunio, cynaliadwyedd, economi gylchol, dylunio cymdeithasol ac unrhyw beth sy'n ymwneud â 'phobl a'r blaned' yw fy maes i. Mae llawer o'm gwaith yn ymwneud â meithrin gallu yn yr economi gylchol neu gyflwyno pobl i arloesi a gaiff ei yrru gan ddylunio. Rwyf hefyd yn gwneud gwaith gwerthuso ar y diwydiannau creadigol, gan edrych ar sut mae prosesau yn y diwydiannau creadigol yn dod yn fwy cynaliadwy. Ond yn ôl pob tebyg, y peth allweddol rwy'n ei wneud yw datblygu offer a systemau sy'n caniatáu i bobl edrych ar sut i wneud pethau newydd; sut i naill ai ddylunio neu ailgynllunio cynhyrchion, gwasanaethau, systemau, a modelau busnes yn arbennig, i fod yn fwy cynaliadwy.
Yn bendant, fy hoff beth am weithio ym maes ymchwil yn PDR yw'r diwylliant, ac mae’r diolch am hynny i’w natur agored; mae oherwydd yr ysbrydoliaeth a gewch gan y bobl o'ch cwmpas a'r gefnogaeth a gewch ganddynt. A'u parodrwydd i’ch canlyn pan fyddwch ar daith wallgof – nid oes fyth deimlad na allwch chi archwilio syniad! Mae bod yng nghwmni pobl sydd wir yn becso am yr hyn y maen nhw'n ei wneud yn ysbrydoledig.