The PDR logo

Foetal Monitor Interaction Dylunio

HUNTLEIGH HEALTHCARE

Ailddylunio monitor calon ffetws ar gyfer technoleg sgrin gyffwrdd.

Wrth i ddatblygiadau mewn technoleg newid dyfeisiau meddygol tu hwnt i gydnabyddiaeth, gwelodd Huntleigh yr angen am ymagwedd ar sail defnyddwyr at ddatblygu’r rhyngwyneb am Fonitor Ffetws. Roedd y dyluniad yn sylfaenol wahanol i unrhyw beth a’i ragflaenodd, wrth gynnwys nodweddion mwy grymus a sgrin gyffwrdd am y tro cyntaf.

DYLUNIO GYDA BYDWRAGEDD

Gweithiodd PDR gyda bydwragedd i ddatblygu rhyngwyneb a oedd ynbodloni eu hanghenion hwy. Gan ddefnyddio offer dylunio cynhyrchion, daethom i ddeall eu hanghenion a’u dewisiadau hwy: o’r gofyniad i allu deall data ar gipolwg, i’r dymuniad am fersiwn goleuni-isel na fyddai’n amharu ar gleifion yn ystod y nos.

DYLUNIAD WEDI'I BROFI AM DDEFNYDDIOLDEB

Datblygodd y dyluniad dros lawer o fersiynau a roddwyd ar brawf ymhlith y defnyddwyr terfynol. Gan ddechrau o’r ymchwil gynhyrchiol a phrototeipiau papur, cymerodd PDR y cynnyrch trwy broses Peirianneg Defnyddioldeb a ddogfennwyd yn unol ag ISO 62366. Sicrhaodd y llymder hwn y byddai’r dyluniad yn hawdd ei ddeall ac yn ddiogel ei ddefnyddio. Y cynnyrch terfynol oedd rhyngwyneb hardd a defnyddiol wedi’i ategu gan naratif ymchwil cryf a phenderfyniadau dylunio wedi’u dilysu gan ddefnyddwyr.

Dewch i Drafod

Cysylltu